Mae cynlluniau ar gyfer fferm wynt naw tyrbin mewn coedwig ar y ffin rhwng Sir Conwy a Sir Ddinbych wedi cael eu cyflwyno.
Byddai’r fferm wynt yng Nghoedwig Alwen ger Cronfa Ddŵr Alwen yn cynhyrchu digon o bŵer i gyflenwi 70,600 o dai, yn ôl cwmni ynni adnewyddadwy RWE.
Mae’r cynlluniau ar gyfer y safle rhwng Pentrefoelas a Dinbych yn golygu codi naw tyrbin hyd at 200 medr o uchder.
Pe bai’r cynlluniau’n cael eu gweithredu, byddai sefydliad cymunol yn berchen ar gyfran o Fferm Wynt Coedwig Alwen ac yn gallu buddsoddi’r gyfran honno o elw er budd y gymuned.
‘Pweru hanner cartrefi Sir Conwy’
Byddai’r tyrbinau’n agos at fferm wynt ar y tir fwyaf y RWE, sy’n gwmni Almaeneg, yn y Deyrnas Unedig, sef yr un yng Nghoedwig Clocaenog.
Mae’r cynlluniau wedi bod drwy rowndiau ffurfiol ac anffurfiol o ymgynghori, ynghyd ag arolygon ecolegol, adaryddol, hydrolegol, sŵn ac effaith gweledol, a byddan nhw’n cael eu hystyried gan Benderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru.
Ar ôl hynny, bydd Gweinidogion Llywodraeth Cymru’n gwneud penderfyniad terfynol yn 2025, mae’n debyg.
“Yn dilyn ein hymgynghoriad ffurfiol cyn ymgeisio yn gynharach eleni, ac ar ôl cynnal ac adolygu corff sylweddol o ddata arolwg, mae’r cynigion ar gyfer Fferm Wynt Coedwig Alwen bellach yn nwylo PCAC i’w dilysu ac yna eu harchwilio,” meddai Martin Cole, Arweinydd Prosiect ar gyfer RWE.
“Os caiff ei chymeradwyo, bydd Fferm Wynt Coedwig Alwen yn gallu cynhyrchu pŵer sy’n cyfateb i fwy na hanner y cartrefi yn Sir Conwy, gan wneud cyfraniad sylweddol at dargedau Cymru a’r Deyrnas Unedig o gynhyrchu ynni adnewyddadwy.
“Fel ein Fferm Wynt Coedwig Clocaenog o’i blaen, bydd Alwen hefyd mewn sefyllfa dda i gefnogi economi’r rhanbarth o’r cyfnod adeiladu hyd at ei gweithredu.”
‘Pobol leol yn gallu elwa’
Ychwanega Ben Ferguson, Cyfarwyddwr Cydweithredol Ynni Cymunedol Cymru, eu bod nhw’n falch o fod wedi gweithio mewn partneriaeth ag RWE i ddatblygu cyfle cydberchnogaeth i’r gymuned.
Byddai hynny’n cael ei ddarparu drwy gynllun Cymdeithas Budd Cymunedol, Ynni Hiraethog.
“Mae cydberchnogaeth yn ein helpu i uno’r bylchau rhwng cyflawni’r prosiectau ar raddfa strategol sydd eu hangen ar gymdeithas i gyrraedd sero net, a chyflawni mentrau ynni cymunedol lleol a all fod mor bwerus ar lawr gwlad,” meddai Ben Ferguson.
“Mae gan bobol leol gyfle nawr i elwa’n ariannol o brosiect Coedwig Alwen mewn ffordd nas gwelwyd o’r blaen, ac i benderfynu sut mae’r enillion yn cael eu buddsoddi yn y system ynni leol.”
Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n rheoli’r goedwig, a Dŵr Cymru sy’n berchen ar y tir.