Mae’n bosib y bydd rhai cleifion o Gymru’n derbyn triniaeth ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn Lloegr fel rhan o gynllun newydd i fynd i’r afael â rhestrau aros.
Yn sgil y cynllun rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig, byddai cleifion o Loegr hefyd yn gallu cael eu trin yng Nghymru.
Bydd y bartneriaeth yn cael ei chyhoeddi yng Nghynhadledd Flynyddol y Blaid Lafur, pan fydd Jo Stevens, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, ac Eluned Morgan yn manylu ar y cynlluniau.
Yn ôl y ddwy, bydd cleifion yng Nghymru’n elwa ar gynlluniau yn Lloegr i greu 40,000 o apwyntiadau ychwanegol yr wythnos.
Mae iechyd wedi’i ddatganoli i Gymru, sy’n golygu mai ym Mae Caerdydd mae’r penderfyniadau ynglŷn â’r maes yn cael eu gwneud.
Bydd y bartneriaeth hefyd yn golygu bod mwy o gyfleoedd i gydweithio rhwng y ddwy wlad, gan gynnwys galluogi i Ymddiriedolaethau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol gefnogi’i gilydd fel bo’r capasiti’n caniatáu.
Fe fydd gwasanaethau deintyddol Cymru’n cael eu defnyddio fel esiampl o arfer da ar gyfer y gwasanaeth iechyd yn Lloegr hefyd.
Maen nhw hefyd yn nodi bod y bartneriaeth yn golygu y bydd mwy o gydweithio ar reoleiddio a deddfu rhwng y Senedd a San Steffan “er mwyn cryfhau ac amddiffyn datganoli”.
‘Gwella’r gwasanaeth’
Dywed Eluned Morgan, Prif Weinidog Cymru, bod pobol eisiau gweld y ddwy lywodraeth yn cydweithio i sicrhau bod gan bobol well mynediad at ofal, boed hynny’n ofal deintyddol neu lawdriniaethau.
“Does gennym ni ddim monopoli ar syniadau da a gallwn ddysgu llawer gan ein cymydog agosaf, ac mae llawer o bethau y gallwn ni eu rhannu gyda’n cydweithwyr yng Ngwasanaeth Iechyd Gwladol Lloegr,” meddai.
“Rydyn ni’n barod i harnesu grym y ddwy lywodraeth Lafur, gyda’r un gwerthoedd a chred yn ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol, gan gydweithio i wella’r gwasanaeth i bobol ar ddwy ochr y ffin.”
‘Cam cyntaf’
Ychwanega Jo Stevens, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, mai iechyd yw un o’r meysydd mwyaf heriol sy’n wynebu’r ddwy lywodraeth.
“Gallai’r camau ymarferol, synhwyrol hyn arwain at newid gwirioneddol i gleifion a chlinigwyr,” meddai.
“Hwn yw’r cam cyntaf mewn partneriaeth ddewr newydd rhwng llywodraethau Llafur y Deyrnas Unedig a Chymru fydd yn helpu i ddarparu gofal gwell i gleifion a lleihau rhestrau aros.”
‘Hen bryd’
Wrth ymateb, dywed y Ceidwadwyr Cymreig ei bod hi’n “hen bryd” cael partneriaeth, ond eu bod nhw’n croesawu’r newyddion.
“Fe wnaeth Llywodraeth Lafur Cymru wrthod y cynnig hwn gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig am resymau pleidiol, gan roi cleifion mewn peryg,” meddai Sam Rowlands, llefarydd iechyd y blaid.
“Rhaid i Lafur dderbyn ychydig o gyfrifoldeb a chanolbwyntio’n llwyr ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol eto, a darparu mwy o feddygon a nyrsys yn hytrach na gwleidyddion i’r Senedd.”
Cafodd cynnig blaenorol o gymorth gan Lywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig ym mis Awst 2023 ei ddisgrifio fel “cam gwleidyddol” gan Eluned Morgan pan oedd hi’n ysgrifennydd iechyd.
‘Diffyg eglurder’
Yn ôl Mabon ap Gwynfor, llefarydd Plaid Cymru dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, mae diffyg eglurder ynghylch sut bydd y cynllun yn gweithio’n ymarferol.
“Y gwir amdani yw bod gwasanaeth iechyd Cymru wedi cael ei dan-gyllido a’i gamreoli gan lywodraethau olynol Llafur Cymru ers dros ddau ddegawd, gan arwain at rai o’r rhestrau aros hiraf yn y Deyrnas Unedig – ac mae angen mwy na chydweithio cosmetig gyda San Steffan.
“Er bod llywodraethau’r Deyrnas Unedig a Llafur Cymru yn diystyru’r bartneriaeth newydd hon fel cam ymlaen i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, nid oes eglurder ynghylch sut y bydd hyn yn gweithio’n ymarferol ac nid yw’n ymddangos ei fod yn cynnig y camau radical sydd eu hangen i fynd i’r afael â’r argyfwng sylfaenol y mae Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru yn ei wynebu.
“Rhaid inni hefyd sicrhau nad yw unrhyw gydweithrediad yn y dyfodol yn gwanhau llywodraethu iechyd Cymru.”