Mae cynghorydd yn Llanbed yn addo y bydd yr awdurdodau lleol yn gwneud ymdrech i warchod campws Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn y dref, ar ôl wythnos a mwy o bryderon ac ansicrwydd am ei ddyfodol.

Fe fu dyfodol y campws yn y fantol ers cyhoeddi cynnig gan y Brifysgol i symud cyrsiau’r Dyniaethau o Lanbed i’r campws yng Nghaerfyrddin o fis Medi 2025.

Achosodd y cyhoeddiad hwn bryder difrifol ymhlith trigolion Llanbed – cymuned sy’n aml yn cystylltu ei hunaniaeth drefol â’r sefydliad academaidd hanesyddol.

Mewn datganiad i golwg360 ddydd Mawrth (Tachwedd 19), cadarnhaodd y Brifysgol nad oes bwriad i gau’r campws yn Llanbed yn barhaol.

‘Cadw addewid’

Mae’r Cynghorydd Ann Bowen Morgan, sy’n cynrychioli Llanbed ar Gyngor Sir Ceredigion, bellach wedi datgan y bydd yr awdurdodau lleol yn ymdrechu i sicrhau bod y Brifysgol “yn cadw at yr addewid yma.”

Ers y cyhoeddiad, mae hi ac aelodau o Gyngor y Dref wedi bod yn cyfarfod ag Uwch-dîm y Brifysgol er mwyn deall goblygiadau’r cynnig.

Yn dilyn y cyfarfod, dywed Ann Bowen Morgan fod y Cyngor wedi ymrwymo i warchod y campws.

“Yn ôl yr hyn a ddeallwn, mae trafodaeth ynglŷn â symud myfyrwyr is-raddedig cyrsiau’r Dyniaethau i Gaerfyrddin ym Medi 2025,” meddai wrth golwg360.

“Wrth gwrs, nid ydym yn hapus gyda hyn.

“Mae’r Brifysgol a’r adeiladau mor bwysig i fywyd Llanbed, a’r addysg yma yn mynd yn ôl dwy ganrif.

“Bydd y Maer, y Dirpwy Faer a minnau yn cael trafodaeth bellach yn y dyfodol agos.

“Byddaf yn gwneud popeth yn fy ngallu i geisio rhwystro’r symud, a chefnogi’r myfyrwyr a’r gymuned fydd yn cael eu heffeithio’n fawr.”

Mae hi hefyd wedi ategu neges y brifysgol na fydd y campws yn cau’n barhaol.

“Nid oes sôn am gau’r campws, a byddwn yn sicrhau eu bod yn cadw at yr addewid yma,” meddai.

Campws Llanbed “ddim yn cau”, medd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

Efan Owen

Bydd campws Llanbed yn parhau i gynnal “gweithgareddau yn gysylltiedig ag addysg”, medd y brifysgol