Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn gwadu eu bod nhw am gau eu campws yn Llanbed, wedi wythnos o sïon am ddyfodol y safle.
Daeth amheuon wedi i reolwyr y brifysgol gyhoeddi ddydd Llun diwethaf (Tachwedd 11) y byddai darpariaeth cyrsiau’r Dyniaethau yn symud i gampws Caerfyrddin o fis Medi nesaf.
Mae’r campws yn Llanbedr Pont Steffan yn rhan o’r sefydliad academaidd hynaf yng Nghymru i wobrwyo graddau.
Ond roedd pryderon am ddirywiad y campws eisoes, yn dilyn cwymp sylweddol yn nifer y myfyrwyr a’r cyrsiau oedd yn cael yn cynnig yn Llanbed.
Fe lansiodd John Jennings, is-gadeirydd Cymdeithas Cyn-fyfyrwyr Llanbed, ddeiseb yn galw am ddyfodol cynaliadwy i’r campws wedi’r newyddion yr wythnos ddiwethaf.
Bellach, mae bron i 4,000 wedi llofnodi’r ddeiseb.
Fe gadarnhaodd y Brifysgol heddiw (dydd Mawrth, Tachwedd 19) nad oes unrhyw fwriad gan y rheolwyr i gau’r campws, a’u bod yn chwilio am “weithgareddau yn gysylltiedig ag addysg” i’w cynnal yno’n y dyfodol.
Trosglwyddo cyrsiau er mwyn “darparu profiad gwell”
Wrth siarad â golwg360, mae llefarydd ar ran y brifysgol yn pwysleisio mai “cynnig” yn unig oedd yr hyn gafodd ei gyhoeddi’r wythnos ddiwethaf, a bod trafodaethau â staff a myfyrwyr yn parhau o hyd.
Yn ogystal, maen nhw’n awgrymu y bydd y penderfyniad terfynol yn cael ei wneud er budd academaidd y myfyrwyr.
“Mae’r Brifysgol yn parhau’r trafodaethau gyda’n staff, ein myfyrwyr, a’n undebau llafur cydnabyddedig ar y cynnig i drosglwyddo ein darpariaeth Dyniaethau i’n campws yng Nghaerfyrddin, fel bod ganddyn nhw’r gefnogaeth a’r lleoliad sydd eu hangen arnyn nhw i ddatblygu ymhellach a ffynnu fel disgyblaeth academaidd,” meddai’r llefarydd.
Yn ogystal, maen nhw’n pwysleisio eu bod nhw’n gobeithio lleddfu’r heriau y byddai myfyrwyr presennol yn eu hwynebu yn sgil y newid.
“Bydd ein cynnig yn anelu at sicrhau parhad addysg i holl fyfyrwyr presennol Llambed a byddwn yn gweithio’n galed i liniaru unrhyw bryderon sydd ganddyn nhw ynghylch y newid arfaethedig hwn o leoliad.
“Byddai’r cynnig hefyd yn darparu profiad gwell i fyfyrwyr amser llawn gan gynnwys gwell mynediad at Undeb y Myfyrwyr, ei glybiau a’i gymdeithasau.”
Dyfodol y campws
Mae’r brifysgol hefyd wedi ymrwymo i gefnogi safle’r campws yn Llanbed.
Er nad oes cynlluniau pendant wedi’u hamlinellu gan y llefarydd, dywed y bydd y brifysgol yn “cadw prif ystâd campws Llanbedr Pont Steffan”.
Gallai hynny gynnig rhywfaint o gysur i’r rheiny yn Llanbed sydd wedi bod yn gofidio am ddyfodol yr adeiladau hanesyddol yno.
Ond llai calonogol i rai fydd y datganiad gan y brifysgol eu bod nhw’n chwilio am “weithgareddau sy’n gysylltiedig ag addysg fyddai’n rhoi bywyd newydd i’r campws hwn a dyfodol mwy diogel”.
Pryderon y gymuned ehangach
Yn sgil y sefyllfa’n ddiweddar, mae’r gymuned ehangach wedi bod yn poeni am ddyfodol tref Llanbed.
Mae Gareth Jones yn gyn-brifathro, ond bellach mae’n rhedeg caffi, Yr Hedyn Mwstard, sydd gyferbyn â’r campws.
Dywed y byddai cau’r campws yn ergyd fawr i ddyfodol y dref a’i hunanaieth.
“Mae’r coleg wedi bod yn Llanbed ers 200 mlynedd, felly mae’n rhan anhepgor, yn hanesyddol, yn ddiwylliannol ac economaidd, o’r dref a’r ardal – y sefydliad addysg uwch cyntaf i ddyfarnu graddau yng Nghymru,” meddai wrth golwg360.
“Roedd cael sefydliad mor fawr hefyd mewn tref fach yn lluosogi a dwysáu ei ddylanwad a’i effaith ar y gymuned, ac o dynnu’r sefydliad allan does dim dwywaith y bydd hynny’n cael canlyniadau pellgyrhaeddol, nid yn unig yn faterol ond o ran meddylfryd a hunan-werth yr ardal yn ogystal.
“Mae’n unigryw hefyd: bu cyfran helaeth o fyfyrwyr yn dewis dod yma oherwydd natur wledig, fechan ac agosatoch Cymraeg a Chymreig Llanbed a’r cylch.”