Dydy Llywodraeth Cymru ddim yn barod i ddwyn Syr Keir Starmer a’i Llywodraeth Lafur yn San Steffan i gyfrif tros faterion amaethyddol, yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig.
Daw sylwadau Janet Finch-Saunders, yr Aelod Ceidwadol o’r Senedd dros Aberconwy, wrth iddi ymateb i’r penderfyniad i godi treth etifeddiant ar eiddo ffermwyr o 2026.
Dywed ei bod hi’n disgwyl i “fwy o ffermwyr fynd allan o fusnes” pe bai’r cynlluniau’n parhau fel ag y maen nhw ar hyn o bryd.
Mae ffermwyr yn protestio yn Llundain heddiw (dydd Mawrth, Tachwedd 19) yn erbyn y cynlluniau.
‘Ffermwyr yn cael eu taro o bob ochr’
Yn ôl Janet Finch-Saunders, sy’n cynrychioli’r etholaeth lle mae’r ffermwr adnabyddus Gareth Wyn Jones yn byw, mae ffermwyr “wedi’u bwrw o bob ochr”.
Wrth siarad â golwg360, dywed Janet Finch-Saunders fod y ffermwyr mae hi’n eu hadnabod yn “ofnadwy o siomedig” efo penderfyniad Llywodraeth y Deyrnas Unedig i gael gwared ar y rhyddhad eiddo amaethyddol (APR).
Ers 1992, dydy ffermwyr ddim wedi bod yn talu’r dreth etifeddiant ar dir sydd yn cael ei drosglwyddo o un genhedlaeth i’r nesaf.
O ganlyniad i Gyllideb y Canghellor Rachel Reeves, fe fydd ffermwyr bellach yn talu 20% o dreth ar eiddo ffermydd o’r £1m cyntaf i fyny.
20% fydd cyfradd y dreth etifeddiant, yn lle’r 40% arferol.
“Maen nhw wedi cael eu taro yn barod yng Nghymru efo’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy, a chyn hynny gyda’r cynlluniau NVZs (Nitrate Vulnerable Zones), a rŵan y dreth etifeddiant,” meddai Janet Finch-Saunders wrth golwg360.
Ychwanega y bydd yn “costio miloedd [o bunnoedd]” i ffermwyr.
Diffyg craffu
Dydy gwleidyddion Llafur yn y Senedd ddim yn barod i ddwyn Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Syr Keir Starmer i gyfrif, yn ôl Janet Finch-Saunders.
“Mae yna wleidyddion yn y Senedd, y gweinidogion, y Cabinet, ac Eluned Morgan ei hun, sydd ddim ond eisiau amddiffyn Keir Starmer,” meddai wrth golwg360.
Wrth drafod protestiadau ffermwyr tu allan i Venue Cymru yn Llandudno yn ystod Cynhadledd Llafur Cymru, dywedodd y Prif Weinidog Eluned Morgan wrth golwg360 ei bod hi’n gwerthfawrogi’r “cyfraniad pwysig” mae’r sector amaeth yn wneud i Gymru, ond fod “rhaid i rywun dalu am y sector gyhoeddus”.
“Mae ffermwyr yn defnyddio’n hysbytai ni, maen nhw’n defnyddio’n hysgolion ni, a’r ffaith yw ein bod ni wedi cael llymder am amser hir iawn,” meddai.
“Felly, dw i’n meddwl ei fod e’n gwneud synnwyr i gael y bobol sydd â’r mwyaf o arian i gymryd mwy o’r baich.”
Ond mae Janet Finch-Saunders yn anghytuno’n llwyr.
“Maen nhw [Llywodraethau Cymru a’r Deyrnas Unedig] yn dweud, ‘Wel, mae ffermwyr yn gyfoethog ac yn medru’i fforddio fo’.
“Wel, na, nid dyna ydi’r sefyllfa.
“Dangoswch i fi ffermwr sydd yn gyfoethog – rydym angen ein ffermwyr i gynhyrchu bwyd, oherwydd, heb fwyd, does dim dyfodol.”
‘Ffermwyr am fynd allan o funses’
Os ydy’r cynlluniau’n parhau fel ag y maen nhw, medd Janet Finch-Saunders, mae hi’n disgwyl i ragor o “ffermwyr fynd allan o fusnes”.
“Bydd mwy o fentrau rhyngwladol yn dod i mewn ac yn prynu’r tir, a fydd o ddim yn cael ei ddefnyddio i gynhyrchu bwyd,” meddai.
Yn dilyn Cwestiynau’r Prif Weinidog yn y Senedd, mae Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, wedi beirniadu “agwedd ddi-hid” Eluned Morgan at ffermwyr.
“Bydd treth farwolaeth ddinistriol Llafur yn chwalu ffermydd Cymru, ond eto does gan y Prif Weinidog ddim clem o hyd faint o ffermydd fydd yn cael eu heffeithio, ac mae hi’n amddiffyn polisi nad yw hi’n ei ddeall yn llawn,” meddai.
“Tra bydd y Ceidwadwyr Cymreig bob amser yn sefyll i fyny dros ein ffermwyr, yn syml iawn dydy Llafur jyst ddim yn ei deall hi: dim ffermwyr, dim bwyd.”
Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Lywodraeth Cymru.