Mae Gwasanaeth Tân ac Achub y Canolbarth a’r Gorllewin wedi cyhoeddi rhybudd a chyngor diogelwch yn dilyn tân mewn llety myfyrwyr yn Abertawe.
Cafodd timau o ardaloedd Treforys, Abertawe, Gorseinon, Port Talbot, Castell-nedd, Pontardawe, Llanelli a Chaerfyrddin eu galw i dân mewn bloc o fflatiau i fyfyrwyr yn Abertawe ddydd Llun (Tachwedd 18).
Bu’r gwasanaeth tân yn cydweithio â’r heddlu a’r Gwasanaeth Ambiwlans i reoli’r sefyllfa, gan ddiogelu’r holl drigolion sy’n byw yno.
Roedd y tân wedi’i gyfyngu i’r gegin mewn un fflat ar ôl i’r awdurdodau lwyddo i’w reoli, a chafodd yr adeilad ei wagio heb fod neb wedi cael anafiadau.
Mae’r adeilad wedi bod yn destun archwiliad ers y tân er mwyn sicrhau diogelwch pawb sy’n byw yno.
Cyngor
Mae’r gwasanaeth tân wedi cyhoeddi’r cyngor canlynol:
- Peidiwch byth â gadael neu droi cefn ar offer wrth goginio – un o’r prif bethau sy’n achosi tân
- Sicrhewch fod drysau tân ynghau bob amser er mwyn rheoli tanau ac atal mwg rhag lledu
- Profwch larymau tân yn rheolaidd
- Cadwch ardaloedd cyffredin yn wag ac yn glir rhag rhwystrau tân