Mae ymgyrchwyr yn galw am roi’r hawl i bleidleiswyr gael dweud eu dweud ynghylch pwy ddylai olynu gwleidyddion sy’n cael eu symud o’u swyddi am gamymddwyn yn ôl system adalw arfaethedig.
Mae Jessica Blair, Cyfarwyddwr Cymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru, yn cefnogi’r galwadau am system adalw i alluogi pleidleiswyr i symud gwleidyddion sy’n camymddwyn o’u swyddi rhwng etholiadau.
Ond dywed Jessica Blair y dylai pleidleiswyr gael dweud eu dweud ynghylch olynwyr, gan rybuddio y byddai elfen o atebolrwydd personol yn cael ei golli o dan system etholiadol “rhestrau caeëedig” y Senedd.
O 2026, bydd pobol yn pleidleisio dros bleidiau yn hytrach nag unigolion, wrth i Gymru ddileu’r drefn ‘Cyntaf i’r felin’ ar draul math llawn o gynrychiolaeth gyfrannol, heb fod is-etholiadau’n cael eu cynnal.
“Gallai’r syniad yma o ddisodli rhywun gyda’r person nesaf ar y rhestr, o bersbectif etholwyr, gael ei weld fel plaid yn cael ei gwobrwyo am ymddygiad drwg,” meddai Jessica Blair.
‘Cosbi’
“Ddylai hyn ddim fod yn ymwneud â phleidiau’n cadw rheolaeth, o reidrwydd; dylai fod yn ymwneud â phleidleiswyr yn cael dweud eu dweud,” meddai Jessica Blair, wrth roi tystiolaeth i Bwyllgor Safonau’r Senedd.
Tynnodd Mick Antoniw o’r Blaid Lafur sylw at y ffaith mai’r unigolyn, ac nid y blaid, fydd wedi camymddwyn.
“Gallai hynny adlewyrchu’n wael ar y blaid neu’r ffordd mae’r blaid wedi ymdrin â’r peth, felly dw i ddim yn meddwl ei fod o reidrwydd yn amlwg, gan mai gweithredoedd un person yw’r rhain,” meddai Jessica Blair wrth ymateb.
Dywedodd hi wrth y pwyllgor fod tri allan o bedwar is-etholiad Senedd y Deyrnas Unedig o ganlyniad i ddeisebau adalw ers 2019 wedi cael eu hennill gan blaid wahanol i blaid yr unigolyn gafodd ei symud o’i swydd.
“Gall pleidiau gael eu cosbi am ymddygiad drwg unigolyn, neu fe all fod yn adlewyrchiad o newid cefnogaeth wleidyddol ar ôl etholiad,” meddai.
“Dydy hi ddim fel pe bai yna achos gwirioneddol dros gadw sedd y blaid honno, yn enwedig tair blynedd ar ôl etholiad, er enghraifft.”
Atebolrwydd
Bydd y Pwyllgor Safonau’n gwneud argymhellion ynghylch sut y dylai mecanwaith adalw weithio yng Nghymru, a hynny’n rhan o’u hymchwiliad i atebolrwydd Aelodau’r Senedd.
Gofynnodd Hannah Blythyn, sy’n cadeirio’r pwyllgor, i dystion a ddylai’r amgylchiadau ynghylch adalw Aelod o’r Senedd fod yr un fath â San Steffan.
Awgrymodd Jessica Blair fod dedfryd o lai na deuddeg mis o garchar, gwaharddiad o ddeng niwrnod o leiaf, neu gollfarn am drosedd yn ymwneud â threuliau’n fan cychwyn da.
Cytunodd Nia Thomas, swyddog ymchwil Cymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru, y dylai rheolau’r Senedd fod yr un fath â chynghorwyr sy’n gallu cael eu symud o’u swyddi os nad ydyn nhw’n mynychu cyfarfodydd am chwe mis.
“Mewn unrhyw swydd arall, fyddech chi’n methu gwneud hynny,” meddai.
“Pe na bawn i’n mynd i’r gwaith, byddai pobol fatha, ‘Beth sy’n digwydd fan hyn?’
“Dw i’n credu bod rhaid cael llinell yn y tywod, a dw i’n credu bod deiseb adalw fwy na thebyg yn briodol yn yr achos hwn.”
‘Baich enfawr’
Mewn sesiwn dystiolaeth gynt ar Dachwedd 19, rhybuddiodd Clare Sim o Gymdeithas y Gweinyddwyr Etholiadol, rhag ailadrodd system adalw “ffaeledig” San Steffan.
Disgrifiodd Clare Sim y broses adalw fel baich gweinyddol enfawr, wrth iddi godi pryderon am y gost i bwrs y cyhoedd.
Fe wnaeth hi ddadlau y dylai deisebau adalw, sydd ar agor am chwe wythnos yn San Steffan, gau unwaith mae’r trothwy o 10% o’r etholaeth yn ei llofnodi wedi cael ei fodloni.
Awgrymodd Mick Antoniw, cyn-Gwnsler Cyffredinol Cymru, bleidlais gyhoeddus syml ‘Dylai/Na ddylai’ ar a ddylai gwleidydd aros yn ei swydd, yn lle proses ddau gam “ddibwynt”.
Dywedodd Colin Everett, cadeirydd Bwrdd Cydlynu Etholiadol Cymru, y gallai fod yn ateb amgen dichonadwy er mwyn lleihau’r baich gweinyddol a gwarchod llais etholwyr ar yr un pryd.
‘Llawer mwy cymhleth’
Ychwanegodd Clare Sim y byddai angen amserlen o 25 niwrnod o leiaf er mwyn cynnal ryw is-etholiad.
Rhybuddiodd hi am gymhlethdodau paru’r 32 etholaeth gafodd eu defnyddio yn yr etholiad cyffredinol fis Gorffennaf er mwyn creu 16 etholaeth ar gyfer pleidlais y Senedd yn 2026, gyda phob un yn dewis chwe Aelod.
“Rydyn ni’n sôn am dri neu bedwar awdurdod, o bosib… mae’n llawer mwy cymhleth nag unrhyw broses arall yn unman arall yn y Deyrnas Unedig,” meddai.
Wrth alw am gysondeb a symlrwydd, dywedodd Colin Everett y byddai etholwyr yn disgwyl gallu pleidleisio wyneb-yn-wyneb ar unrhyw ddiwrnod neu ddiwrnodau penodol, a chael yr hawl i bleidlais bost neu drwy ddirprwyaeth.
Fe wnaeth e wrthod awgrymiadau y dylai fod angen bodloni’r trothwy o 10% ym mhob un o’r etholaethau sydd wedi’u paru, gan ddweud y byddai hyn yn cwestiynu pam eu bod nhw wedi cael eu paru yn y lle cyntaf.