Mae’r Urdd yn anelu at gynnig gwyliau haf am ddim i 1,000 o blant o aelwydydd incwm isel y flwyddyn nesaf.

Cafodd 300 o blant fynd i wersylloedd haf y mudiad ieuenctid eleni drwy gronfa Cyfle i Bawb.

Maen nhw’n ail-lansio apêl y gronfa heddiw (dydd Mercher, Tachwedd 20) ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Plant, i godi arian er mwyn gallu cynnig llefydd i ragor o blant.

Fe wnaethon nhw dderbyn mwy nag erioed o geisiadau i’r gronfa yn 2024, ac mae Cyfarwyddwr Gwersyll yr Urdd yn Llangrannog yn dweud eu bod nhw wedi sylwi ar gynnydd mawr dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

‘Tynnu’r pwysau oddi ar y plant’

Mae plant Emily Bolwell o Risga ger Caerffili wedi elwa ddwywaith ar y gronfa gafodd ei lansio yn 2018.

Yn ogystal â disgrifio’u hunain fel teulu incwm isel, mae Olivia-Mai, disgybl Chweched Dosbarth yn Ysgol Gyfun Cwm Rhymni, a Lilly-Rose, sydd ym mlwyddyn wyth, yn ofalwyr ifainc i’w mam, sydd ag anaf i linyn ei chefn, a’u brawd iau, sydd ag anghenion dysgu dwys yn sgil ei awtistiaeth.

Roedd gallu treulio amser yng Nglan-llyn a Phentre Ifan yn gyfle iddyn nhw fod yn “nhw eu hunain” a mwynhau heb bwysau eu sefyllfa deuluol, yn ôl eu mam.

“Fel teulu fyswn i byth yn gallu’u gyrru nhw ar dripiau’r Urdd heb yr arian sy’n cael ei roi,” meddai Emily Bolwell wrth golwg360.

“Mae e’n rhoi cyfle iddyn nhw fod yn nhw eu hunain; mae’n tynnu pwysau’r deinamics  teuluol i ffwrdd ac yn gadael iddyn nhw ffeindio’u hunain.

“Aeth Lilly-Rose i Lan-llyn eleni a llynedd, a chael gwneud wythnos gyfan eleni oherwydd ei hoed; roedd hi wrth ei bodd, gwnaeth hi ffrindiau efo pobol o bob rhan o Gymru, a gwthio’i hun i wneud pethau newydd.”

Ar ôl cael wythnos yng Nglan-llyn y llynedd, cafodd Olivia-Mai dreulio hanner wythnos yn gwneud gweithgareddau amgylcheddol, a’r hanner arall ar yr ochr llesiant ym Mhentre Ifan eleni.

“Roedd hi’n betrus ar y dechrau,” meddai ei mam, gan egluro’i bod hi wedi methu TGAU Gwyddoniaeth y sgil materion tu allan i’w rheolaeth, a’i bod hi’n poeni am agwedd amgylcheddol y cwrs haf.

“Roedd hi o’r farn wedyn ei bod hi’n rybish ar unrhyw beth yn ymwneud â gwyddoniaeth, felly doedd hi ddim yn meddwl y byddai hi’n addas ar gyfer y cwrs.

“Fe wnes i siarad efo’r trefnwyr ac esbonio, ac fe wnaethon nhw gysuro hi y byddai popeth yn iawn – does dim rhaid cael gradd TGAU i fwynhau gwyddoniaeth amgylcheddol.

“Felly fe aeth hi, ac roedd hi wrth ei bodd; dyw hi heb stopio siarad amdano fe.

“Fe wnaeth e wir bwysleisio’r neges yna fod graddau ddim yn diffinio pwy ydych chi.

“Fel teulu, rydyn ni mor ddiolchgar am y gronfa, mor ddiolchgar i bawb sy’n ei hariannu, yn ddiolchgar i’r Urdd am gynnig y cyfleoedd hyn.”

Mae Emily Bowell a’i phartner Ryan yn dysgu Cymraeg, a’r plant ieuengaf, Brychan a Teilo, yn mynd i ysgol Gymraeg hefyd, ond Saesneg yw prif iaith yr aelwyd.

“Yn amlwg, mae’r Urdd yn agored i unrhyw blentyn yng Nghymru, boed nhw’n siaradwyr Cymraeg ai peidio,” meddai, gan annog rhieni i geisio am y gronfa pan fydd hi’n agor.

“Ond i’n teulu ni, rydyn ni mewn rhan eithaf Saesneg ei hiaith, felly roedd mynd yno a defnyddio’r Gymraeg yn wych iddyn nhw.”

‘Plant yn newid o flaen dy lygaid’

Lowri Jones yw Cyfarwyddwr Gwersyll Llangrannog, ac eglura ei bod hi wedi cael gweld plant Cymru ar eu gorau yn y gwersylloedd haf ers tua ugain mlynedd ond eu bod nhw’n golygu “cymaint mwy” ers dechrau cronfa Cyfle i Bawb.

“Dw i ddim yn gorddweud yn fan hyn; ti’n gweld plant yn newid o flaen dy lygaid di,” meddai wrth golwg360.

“Mae e mor werthfawr; mae’r staff yn gweld llaw cyntaf y gwahaniaeth mae hwn yn ei wneud i blant Cymru, yn enwedig y plant mwyaf bregus.”

Er bod 67% o ysgolion Cymru’n cynnig tripiau i wersylloedd yr Urdd yn ystod tymor yr ysgol, mae’r gwersylloedd haf yn golygu bod plant yn mynd yno’n annibynnol.

“Mae e’n ffordd dda o wneud ffrindiau a gwneud cysylltiadau â phobol o bob cwr o Gymru,” ychwanega Lowri Jones, gan ddweud eu bod nhw’n gweld newid mawr yn hyder y plant.

“Fe wnaeth un fam ddweud wrtha i wrth ddod i gasglu ei phlentyn eleni, oedd wedi cael dod drwy’r gronfa, a diolch yn ddiffuant am roi gwên ar wyneb ei phlentyn hi.

“Roedden nhw wedi cael cyfnod anodd iawn fel teulu, a doedd hi heb weld ei phlentyn yn gwenu ers tri mis.

“Roedd hi bron yn ei dagrau, a fi yn fy nagrau gyda hi.”

Mae’r targed i ariannu llefydd i 1,000 o blant yn ystod haf 2025 wedi’i osod ar sail y galw eleni.

“Rydyn ni mo’yn gallu cynnig i gymaint o blant â phosib,” meddai wedyn.

“Mae un ym mhob tri phlentyn yng Nghymru yn byw mewn tlodi ar y funud, ac rydyn ni wedi gweld y galw am y gronfa’n cynyddu tipyn dros y ddwy flynedd ddiwethaf.”

Gall unrhyw un gyfrannu i’r gronfa drwy wefan yr Urdd neu drwy gysylltu efo nhw ar 01239 652 140 neu cronfa@urdd.org.