Mae Plaid Cymru’n galw ar Lywodraeth Lafur Cymru i roi rhagor o bwysau ar Drysorlys y Deyrnas Unedig, wrth i’r gost o gynyddu cyfraniadau cyflogwyr at Yswiriant Gwladol eu gweithwyr ddod i’r amlwg.
Mae’r Blaid yn dadlau bod angen sicrwydd ar ddarparwyr gwasanaethau allweddol, gan gynnwys ‘gweithwyr prifysgol… a sefydliadau’r trydydd sector’ rhag sgil effeithiau codi maint y cyfraniadau.
Fe fu cynrychiolwyr y Blaid yn San Steffan eisoes yn galw am gymorth i gartrefi gofal a meddygon teulu, gan nad ydyn nhw wedi’u heithrio o’r cynnydd mewn cyfraniadau fel mae eu cydweithwyr yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
‘Gofid gwaeth na Covid’
“Mae’r sector cyhoeddus yng Nghymru, gan gynnwys prifysgolion, meddygon teulu a’r trydydd sector eisoes dan bwysau ariannol eithafol,” meddai Rhun ap Iorwerth, arweinydd Plaid Cymru.
“Mae cyhoeddiad y Canghellor yn gwaethygu’r pwysau sy’n eu wynebu a dyfnhau eu pryder; bydd yn gwaethygu’r sefyllfa i sefydliadau sector cyhoeddus ac i bobol Cymru.”
Yn ôl Rhun ap Iorwerth, mae rheolwr un cartref gofal ym Mhorthmadog yn amcangyfrif y bydd eu bil Yswiriant Gwladol yn codi i £220,000 – sy’n cyfateb i £56 y pen ar gyfer pob preswylydd bob wythnos.
Yn ôl y rheolwr, bydd hyn yn “peri gofid gwaeth na Covid”.
“Mae cartrefi gofal fel Cartrefi Gofal Cariad ym Mhorthmadog yn darparu gwasanaeth hanfodol i Gymru, gan ofalu am y mwyaf bregus yn ein cymdeithas,” meddai Rhun ap Iorwerth.
“Ond mae cynigion Yswiriant Gwladol newydd Llafur yn peryglu’r sefydliadau hyn.”
Dywed fod rhai amcangyfrifon allanol ar gostau posib y codiadau ar sefydliadau yng Nghymru “yn dangos y gallai fod yn rhaid i Brifysgolion Cymru godi £20m ychwanegol ar eu cyllidebau sydd eisoes dan bwysau”.
“Bydd y practis meddygon teulu cyffredin yn talu £20,000 y flwyddyn yn ychwanegol, a sefydliadau trydydd sector sy’n gwneud gwaith hanfodol fel Marie Curie,” meddai.
‘Pobol gyffredin yn talu’r pris’
Nid drwy’r sector cyhoeddus yn unig y bydd yr effeithiau hyn yn cael eu teimlo, medd Plaid Cymru.
Yng nghyfnod yr etholiad cyffredinol eleni, fe addawodd y Blaid Lafur na fyddai trethi’n cynyddu “i bobol sy’n gweithio” dan Lywodraeth Lafur yn San Steffan.
Ond mae Plaid Cymru bellach yn cyhuddo’r Blaid Lafur o gyflwyno mesurau sy’n groes i’w haddewidion.
Mae ffigurau Swyddfa Gyfrifoldeb y Gyllideb yn awgrymu y bydd “76% o gost y cynnydd yswiriant gwladol yn cael ei drosglwyddo [gan fusnesau] i weithwyr trwy brisiau uwch a chodiadau cyflog is”, medd Rhun ap Iorwerth.
“Sut all y Blaid Lafur ddadlau bod hwn yn bolisi cyfiawn na fydd yn effeithio ar ‘bobol sy’n gweithio’, pan fydd gwasanaethau hanfodol yng Nghymru yn teimlo’r mwyaf o’i effaith?
“Dyma bolisi Llafur arall fydd yn gweld pobol gyffredin yn talu’r pris.
“Rydym yn galw ar Lywodraeth Lafur Cymru i sefyll dros Gymru, a mynnu bod eu penaethiaid yn Llundain yn ad-dalu’r sector cyhoeddus yng Nghymru.”
Yn ogystal, mae’n galw am weithred benodol gan Lywodraeth Cymru mae’n dadlau fyddai’n medru lleddfu effeithiau gwaethaf codi maint cyfraniadau cyflogwyr, sef adfer rhyddhad ardrethi busnes i 75%, “er mwyn amddiffyn busnesau bach a chanolig yng Nghymru rhag effaith waethaf y polisi hwn”.