Cymru fydd y wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i gyflwyno cofrestru pleidleiswyr yn awtomatig, wrth i gynllun peilot ddechrau fis nesaf.
Dywed Jayne Bryant, Ysgrifennydd Llywodraeth Leol Cymru, y bydd Sir Gaerfyrddin, Gwynedd, Casnewydd a Phowys yn treialu cofrestru pleidleiswyr yn ddiofyn rhwng mis Rhagfyr eleni a mis Medi nesaf.
Dywedodd wrth y Senedd y bydd y Comisiwn Etholiadol yn gwerthuso’r cynlluniau peilot cyn ei gyflwyno’n ehangach, a’r disgwyl yw y bydd 400,000 o bobol yn cael eu hychwanegu at y gofrestr yng Nghymru.
Awgrymodd Jayne Bryant y bydd ei chydweithwyr yn Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cadw llygad barcud, wrth i Lafur ymrwymo i ddilyn esiampl Cymru wrth ychwanegu miliynau yn rhagor o bobol at y gofrestr etholiadol.
Wrth ymateb i ddatganiad am etholiadau ddoe (dydd Mawrth, Tachwedd 19), fe wnaeth y Ceidwadwr Darren Millar gwestiynu a fydd cofrestru awtomatig yn arwain at gynnydd mewn ymgysylltu.
“Dw i ddim wir yn credu y bydd yn arwain at newid sylweddol mewn ffigurau sy’n troi allan [i bleidleisio],” meddai.
Diffyg ymgysylltu
Ond fe wnaeth Peredur Owen Griffiths o Blaid Cymru gefnogi’r mesur “syml”, gan ddadlau y bydd yn gwneud cymryd rhan yn etholiadau’r Senedd a’r cynghorau’n fwy hygyrch i bawb.
“Bydd yn sicrhau bod pobol yng Nghymru, yn enwedig pleidleiswyr ifainc a thrigolion o dramor sy’n gymwys, yn aros ar y gofrestr etholiadol heb berygl o gwympo i ffwrdd heb yn wybod iddyn nhw,” meddai.
“Bydd hefyd yn helpu i rymuso grwpiau sy’n aml wedi’u tangynrychioli a lle mae diffyg ymgysylltu â nhw mewn gwleidyddiaeth.”
Fe wnaeth Darren Millar hefyd rybuddio am gyflwr “syfrdanol” cynghorau tref a sir, ar ôl i adroddiad rybuddio bod heriau’n bygwth seiliau democratiaeth leol.
“Yn blwmp ac yn blaen, mae’n eithaf syfrdanol nad yw tri chwarter y bobol yn wynebu etholiadau, ac nad oes cystadleuaeth hyd yn oed ar gyfer 16% o’r seddi hyn ar ein cynghorau tref a sir,” meddai’r Tori, oedd wedi dechrau ei yrfa fel cynghorydd tref.
“Dyna’r pethau mae’n rhaid i ni fynd i’r afael â nhw, neu fel arall, yn syml iawn, bydd rhaid i ni ofyn i ni ein hunain a yw’r haen honno o wleidyddiaeth yn rhywbeth ddylai barhau, mewn gwirionedd.”
‘Brefu’
Dywedodd Jayne Bryant y bydd Llywodraeth Cymru’n ystyried unrhyw ddiwygiadau angenrheidiol i gynghorau tref a sir yn dilyn ymchwiliad parhaus Pwyllgor Llywodraeth Leol y Senedd.
Wrth droi at awdurdodau lleol, dywedodd fod gweinidogion wedi rhoi’r dewis iddyn nhw rhwng systemau pleidleisio ‘y cyntaf i’r felin’ a’r bledlais sengl drosglwyddadwy yn 2021.
Wrth alw am adborth er mwyn sicrhau bod y dewis yn ddichonadwy, nododd nad yw’r un cyngor wedi dewis yr opsiwn – gyda Cheredigion, Gwynedd a Phowys yn gwrthod y bleidlais sengl drosglwyddadwy yn dilyn ymgynghoriad.
“Dw i’n ei chael hi’n rhyfeddol nad yw Plaid Cymru yng Ngheredigion a Gwynedd yn hoffi’r bleidlais sengl drosglwyddadwy, pan fo’u haelodau eu hunain yn y siambr hon, wrth gwrs, yn parhau i frefu am bwysigrwydd y bleidlais sengl drosglwyddadwy ar bob lefel,” meddai Darren Millar.
“Fe wnaeth y rhan fwyaf bleidleisio ‘o blaid’ yng Ngwynedd, ond mae angen uwchfwyafrif arnoch chi i allu croesi’r llinell, felly roedd yn golygu bod Grŵp y Blaid o blaid, ond nad oedden nhw wedi llwyddo o drwch blewyn,” meddai Peredur Owen Griffiths, wrth geisio cywiro’r cofnod.
‘Rhwystrau’
Fe wnaeth Peredur Owen Griffiths annog Llywodraeth Cymru i gyflwyno system cynrychiolaeth gyfrannol ar gyfer etholiadau’r cynghorau erbyn 2032, yn yr un modd â’r Alban a Gogledd Iwerddon.
Fe wnaeth e hefyd godi pryderon am ofynion ID pleidleiswyr gafodd eu cyflwyno gan Lywodraeth flaenorol y Deyrnas Unedig.
“Yn hytrach na gwarchod democratiaeth, roedd y gofynion hyn yn achosi perygl o’i thanseilio drw greu rhwystrau diangen er mwyn i ddinasyddion allu ymgysylltu mewn gwleidyddiaeth,” meddai.
Rhoddodd Jayne Bryant sicrwydd i Aelodau’r Senedd fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo o hyd i beidio â chyflwyno gofynion ID pleidleiswyr ar gyfer etholiadau datganoledig.
Wrth ymateb i adroddiad y Comisiwn Etholiadol yr wythnos ddiwethaf ar aflonyddu a chamdriniaeth yn etholiad cyffredinol fis Gorffennaf, dywedodd Jayne Bryant fod gormod o ymgeiswyr yn wynebu ymddygiad annerbyniol.
Dywedodd y bydd deddfwriaeth yn cael ei diweddaru er mwyn eithrio costau diogelwch rhag terfynau gwario ar gyfer etholiadau Cymreig, yn unol ag argymhelliad yn dilyn llofruddiaeth Jo Cox, yr Aelod Seneddol Llafur, yn 2016.