Mae Plaid Cymru wedi beirniadu Llafur yn San Steffan am beidio deall y diwydiant amaeth yng Nghymru.
Yn ôl Ann Davies, Aelod Seneddol Caerfyrddin a llefarydd amaeth y blaid, mae Llafur yn ceisio portreadu’r diwydiant fel un sy’n llawn tirfeddianwyr cyfoethog – ond dydy’r darlun hwnnw ddim yn gywir, meddai’r gwleidydd sydd hefyd yn wraig fferm.
Mae 79% o holl dir Cymru wedi’i ddynodi’n Ardaloedd Llai Ffafriol, lle mae amodau daearyddol, y pridd neu’r hinsawdd yn cyfyngu ar gynhyrchiant ac yn gwneud ffermio’n fwy anodd.
Yn ôl Ann Davies, roedd incwm cyfartalog ffermydd defaid a gwartheg ar dir uchel wedi gostwng i £18,600 yn 2022-23 – sy’n gwymp o 33% o gymharu â’r flwyddyn gynt.
Treth
Yn ystod Cyllideb y Canghellor Rachel Reeves yr wythnos ddiwethaf, daeth cadarnhad y bydd y rhyddhad o 100% ar dreth yn dod i ben i fusnesau a thir gwerth dros £1m yn y diwydiant amaeth o fis Ebrill 2026.
Bydd y gyfradd bresennol o 100% o ryddhad yn parhau ar gyfer amaeth a busnes o dan £1m, ond ar gyfer asedau dros £1m fe fydd treth etifeddiant yn parhau â 50% o ryddhad, ar gyfradd o 20%.
Yn ôl NFU Cymru ac Undeb Amaethwyr Cymru, bydd y newidiadau hyn yn effeithio ar y rhan fwyaf o ffermydd teuluol Cymru.
‘Pa asesiad effaith?’
“Fel ffermwr llaeth sy’n denant fy hun ac yn gadeirydd Undeb Amaethwyr Cymru yn Sir Gaerfyrddin, efallai fy mod i’n deall hyn yn well na neb arall yn y siambr hon,” meddai Ann Davies yn ystod Cwestiwn Brys yn Nhŷ’r Cyffredin.
“Mae’r llywodraeth yn ceisio portreadu ffermio fel diwydiant o dirfeddianwyr cyfoethog iawn, a dydy hynny jyst ddim yn wir yng Nghymru, gadewch i fi ddweud wrthoch chi.
“Mae ffermwyr tir uchel mewn ardaloedd mynyddog a bryniog yng Nghymru’n derbyn incwm blynyddol cyfartalog o £18,600.
“Do, glywoch chi’n iawn – £18,600 sydd ymhell o dan y cyflog byw cenedlaethol, am oriau sydd ymhell tu hwnt i’r wythnos 40 awr gyfartalog.
“Pa asesiad mae’r gweinidog wedi’i wneud o effaith y newidiadau i Ryddhad Eiddo Amaethyddol yng Nghymru, lle mae cyflogau ffermwyr mor isel?”
‘Anodd iawn yng Nghymru’
“Rwy’n ddiolchgar i’r foneddiges,” meddai Daniel Zeichner, Gweinidog Diogelwch Bwyd a Materion Gwledig San Steffan.
“Mae hi yn llygad ei lle; mae ffermio’n anodd iawn ar draws y wlad, ac mae’n anodd iawn yng Nghymru.
“Mae’n fater datganoledig, felly wna i ddim gwneud sylw am gynlluniau penodol yng Nghymru, ond hoffwn ei chyfeirio’n ôl at ffigurau’r Trysorlys sy’n dangos nifer y bobol sy’n hawlio ar gyfer rhyddhad eiddo amaethyddol, ac mae’n weddol isel, a byddwn i’n dweud mai ychydig iawn sydd yng Nghymru.”
‘Ymateb gwael’
“Roedd hynny’n ymateb gwael gan y gweinidog, sydd yn drist iawn yn dangos y graddau mae trafferthion gwirioneddol ffermwyr Cymru y tu hwnt i afael Llafur,” meddai Ann Davies.
“Mae’n syfrdanol fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi gwneud y newid yma heb asesu’r effaith ar ffermydd teuluol Cymru, sydd eisoes yn wynebu pwysau o bob cyfeiriad.
“Byddaf yn parhau i annog y Llywodraeth i wyrdroi’r penderfyniad hwn.”