Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi cyflwyno gwelliant yn Nhŷ’r Arglwyddi sy’n galw am ddatganoli Ystad y Goron i Gymru.
Bydd y mater yn destun pleidlais heddiw (dydd Mawrth, Tachwedd 5), yn sgil y cynnig ar gyfer gwelliant i Ddeddf Ystad y Goron.
Mae disgwyl i arglwyddi Plaid Cymru gefnogi’r cynnig, sy’n cael ei gyflwyno gan y Farwnes Christine Humphreys, sy’n gyn-Aelod o’r Senedd dros ogledd Cymru.
Y ddadl o blaid
Fe fu’r Democratiaid Rhyddfrydol yn galw am ddatganoli Ystad y Goron ers tro.
Maen nhw’n dweud y dylai’r incwm o ynni adnewyddadwy sy’n eiddo’r Goron aros yng Nghymru a chael ei ddefnyddio er lles cymunedau.
Yn ôl y blaid, does dim cyfiawnhad dros beidio â rhoi’r un pwerau dros Ystad y Goron i Gymru ag sydd gan yr Alban ers 2017.
Caiff y ddadl ei chryfhau gan frasamcan y bydd Ystad y Goron yn derbyn o leiaf £1m o elw o brosiectau ynni gwynt oddi ar arfordir Cymru yn y blynyddoedd i ddod.
Cefnogaeth
Mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi datgan eu cefnogaeth i ddatganoli Ystad y Goron, ond roedden nhw’n cael eu hatal gan y Llywodraeth Geidwadol flaenorol.
Er gwaetha’r Llywodraeth Lafur newydd yn San Steffan, mae disgwyl i’r gwrthwynebiad barhau yno.
“Byddai’r gwelliant hwn yn gweld datganoli rheolaeth dros Ystad y Goron i Gymru ac i Lywodraeth Cymru,” meddai’r Farwnes Christine Humphreys.
“Fe fu Democratiaid Rhyddfrydol Cymru’n galw ers tro ar i’r elw sy’n cael ei gynhyrchu o Ystad y Goron aros yng Nghymru a chael ei ddefnyddio er lles cymunedau Cymreig.
“A’r Alban wedi cael y pwerau hyn ers 2017, does dim rheswm o gwbl pam na ddylai Cymru gael yr un fath.
“Mae’r Ceidwadwyr wedi dewis amddifadu Cymru a’i chymunedau o’r llif refeniw posib hwn ers blynyddoed, a dw i’n mawr obeithio na fydd Llafur yn parhau ar yr un trywydd o fethu â rhoi’r offer i Gymru sydd ei angen arni i sefyll ar ei thraed ei hun.
“Gyda datganoli Ystad y Goron, gallen ni weld hwb economaidd wedi’i adeiladu ar lwyddiant prosiectau ynni adnewyddadwy ar hyd ein harfordir, gan adfywio cymunedau arfordirol a sicrhau bod buddiannau’r prosiectau hyn yn cael eu teimlo gan y rhai sy’n agos atyn nhw.
“Dros 25 mlynedd yn ôl, dywedwyd wrthym mai proses, nid digwyddiad, ydy datganoli.
“Gobeithio y bydd Llafur yn anrhydeddu’r geiriau hyn.”