Bydd deddf newydd yn cael ei chyflwyno yn San Steffan heddiw (dydd Mawrth, Tachwedd 5) i atal pobol ifanc rhag prynu tybaco am weddill eu hoes.
Bydd y Bil Tybaco a Fêps yn berthnasol i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, gyda’r bwriad o wahardd unrhyw un gafodd eu geni ar ôl Ionawr 1, 2009 rhag prynu unrhyw gynhyrchion tybaco.
Mae ysmygu’n achosi tua 3,845 o farwolaethau bob blwyddyn yng Nghymru, a nod y Bil yw diogelu cenedlaethau’r dyfodol rhag niwed.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, bydd y Bil yn helpu eu hymdrechion i wneud Cymru’n ddi-fwg erbyn 2030.
Bydd y Bil yn rhoi pwerau ychwanegol i asiantaethau gosbi pobol am werthu tybaco, fêps a chynhyrchion nicotin eraill yn anghyfreithlon.
Dywed Dr Keir Lewis, arweinydd clinigol ar gyfer meddygaeth anadlol yn Ysbyty’r Tywysog Philip yn Llanelli, fod y Bil yn “gyfle i bobol yng Nghymru sicrhau iechyd gwell”.
“Fel meddyg ysgyfaint, rwy’n gweld y boen, y dioddefaint a’r marwolaethau gaiff eu hachosi gan ysmygu bob dydd,” meddai.
“Mae’r Llywodraeth yn helpu i’n diogelu ni yn awr ac ar gyfer cenedlaethau i ddod, drwy’r mesurau cynhwysfawr yma i reoli tybaco a fêpio.”
‘Cam enfawr’
Ar hyn o bryd, mae bron i 16% o bobol ifanc ym mlwyddyn 11 yng Nghymru yn defnyddio fêps bob wythnos, ac mae camau wedi’u cyhoeddi i wahardd fêps untro yng Nghymru erbyn Mehefin 2025.
Bydd y Bil newydd hefyd yn cyflwyno mesurau i fynd i’r afael â’r cynnydd yn nifer y plant a’r bobol ifanc sy’n defnyddio fêps, gan gynnwys drwy wahardd peiriannau gwerthu fêps, a lleihau’r apêl drwy reoli blasau a’u deunyddiau.
“Rwy’n falch o weld y Bil cryfach yma’n cael ei gyflwyno,” meddai Sarah Murphy, Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant Cymru.
“Rydyn ni wedi ymrwymo i fynd i’r afael â smygu, torri cylch caethiwed i nicotin, a pharatoi’r ffordd tuag at Deyrnas Unedig ddi-fwg a di-nicotin.
“Dyma gam enfawr ymlaen tuag at ddiogelu iechyd cenedlaethau’r dyfodol.
“Byddwn ni’n gweithio’n agos gyda’n partneriaid i wneud yn siŵr bod y Bil yn cael ei gyflwyno mor esmwyth â phosib.”
Ychwanega y bydd y cynigion yn eu helpu i wireddu’r nod o greu’r genhedlaeth ddi-fwg gyntaf a mynd i’r afael â fêpio ymysg pobol ifanc – rhywbeth sy’n “broblem gynyddol”.
“Bydd cynyddu’r oedran cyfreithlon ar gyfer prynu cynhyrchion tybaco, yn ogystal ag atal fêps rhag cael eu targedu’n fwriadol at blant, yn chwarae rhan fawr tuag at gyflawni hyn,” meddai.
“Gyda’n gilydd, gallwn ni ddiffodd difrod ysmygu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”