Mae’r felin drafod Sefydliad Bevan yn rhybuddio am effaith yr argyfwng costau byw parhaus.
Daw hyn dilyn gwaith ymchwil ar eu rhan gan YouGov, sy’n dangos bod tua 15% o deuluoedd Cymru’n ei chael hi’n anodd fforddio nwyddau hanfodol weithiau, yn aml neu’n barhaus.
Mae’r data’n dangos na fu gwelliant o ran cyfran y bobol sy’n gallu fforddio nwyddau hanfodol, ac felly mae pobol ledled Cymru’n parhau i deimlo’r esgid yn gwasgu.
Chwyddiant, dyledion, a dioddefaint
Mae dwy flynedd o lefel uchel o chwyddiant yn rhoi straen sylweddol ar bobol, medd yr ymchwil.
Mae 44% o bobol yng Nghymru’n dweud bod eu hiechyd meddwl wedi’i heffeithio’n wael gan eu sefyllfa ariannol, tra bod 29% yn dweud bod y sefyllfa wedi cael effaith negyddol ar eu hiechyd corfforol.
Yn ôl nifer sylweddol o deuluoedd sydd â phlant dan ddeunaw oed, dydyn nhw ddim yn gallu fforddio talu am weithgareddau i’w plant.
Fe wnaeth 19% nodi fod eu plant wedi methu ymuno â chlwb neu wersi chwaraeon tu allan i’r ysgol yn ystod y tri mis hyd at Fedi eleni, tra bod 13% wedi dweud bod eu plant wedi colli allan ar wibdaith gyda’r ysgol.
Fe fu’n rhaid i 30% o bobol yng Nghymru fenthyg arian yn ddiweddar yn sgil pwysau ariannol sydd arnyn nhw, ac mae tua 15% o bobol mewn dyled ers o leiaf fis o ran biliau’r cartref.
Mae hyn oll yn golygu bod gan bobol lai o arian pan fo wir ei angen arnyn nhw ar gyfer gwaith hanfodol.
Ond yn ôl yr ymchwil, y rhai sy’n dioddef fwyaf sydd lleiaf tebygol o ofyn am gymorth.
Roedd 47% o bobol sy’n derbyn Credyd Cynhwysol wedi lleihau faint o fwyd maen nhw’n ei fwyta, neu wedi peidio bwyta o gwbl yn ystod y cyfnod dan sylw.
‘Ymhell o fod ar ben’
“Mae’r argyfwng costau byw ymhell o fod ar ben,” meddai llefarydd ar ran Sefydliad Bevan.
“Mae pobol yn ei chael hi’n anodd fforddio gwres, bwyd a nwyddau hanfodol eraill megis dillad a theithio.
“Dydy unrhyw sôn fod yr argyfwng costau byw yn perthyn i’r gorffennol jyst ddim yn adlewyrchu’r realiti ar lawr gwlad i nifer.”
Dywed Steffan Evans, Pennaeth Polisi (Tlodi) Sefydliad Bevan, fod “yr argyfwng costau byw yn taro’n galed”.
“Yr wythnos ddiwethaf, fe wnaeth y Canghellor, yn hollol gyfiawn, gynyddu’r buddsoddiad mewn gwasanaethau cyhoeddus,” meddai.
“Ond heb fynd i’r afael â’r caledi sy’n wynebu llawer gormod o deuluoedd, bydd uchelgeisiau’r Canghellor yn cael eu tanseilio.
“Mae sicrhau bod yr holl bobol yng Nghymru’n gallu fforddio’r pethau hanfodol o fudd i bawb.”