Mae papur newydd Albanaidd yr Herald dan y lach am adrodd am honiadau newydd yn erbyn Alex Salmond, fu farw’n 69 oed fis diwethaf.
Yn ôl y papur newydd, mae’r heddlu’n ymchwilio i honiad hanesyddol o ymosodiad rhyw gafodd ei wneud gan ddynes ers marwolaeth cyn-Brif Weinidog yr Alban.
Bu farw arweinydd plaid Alba ar Hydref 12, yn ystod ymweliad â Gogledd Macedonia, a chafodd ei angladd ei gynnal ar Hydref 29.
Ymddiswyddodd Alex Salmond o fod yn Brif Weinidog yr Alban pan ddaeth nifer o honiadau o gamymddwyn rhywiol i’r golwg yn 2018, ond cafwyd e’n ddieuog o ddeuddeg cyhuddiad, tra nad oedd modd profi un arall, a chafodd un arall ei dynnu’n ôl gan erlynwyr.
Mae’r heddlu wedi cadarnhau’r honiad newydd yn ei erbyn, a’u bod nhw’n “asesu’r wybodaeth”.
Yn ôl plaid Alba, mae’r honiad yn ymgais i’w “bardduo”.
Dydy’r SNP na Llywodraeth yr Alban ddim wedi gwneud sylw hyd yma.
‘Siomedig iawn’
“Dw i’n siomedig iawn gyda @heraldscotland am argraffu’r stori denau gas am Alex Salmond, sydd mor amlwg heb sylwedd ac sydd wedi’i dylunio i bardduo dyn marw,” meddai Joanna Cherry, cyn-wleidydd gyda’r SNP.
“Onid ydyn nhw’n meddwl am y loes i’w wraig sydd newydd ei gladdu?
“Newyddiaduraeth y gwter.”