Mae trigolion Catalwnia wedi cael rhybudd gan yr awdurdodau i symud cyn lleied â phosib yn sgil llifogydd.

Mae’r llifogydd yn effeithio ar chwe ardal ar hyn o bryd, lle mae rhybudd mewn grym i bobol gadw draw o afonydd a dyfrffyrdd.

Mae bron pob gwasanaeth trên i gymudwyr wedi’u canslo, ac mae rhai gwasanaethau bws wedi’u canslo hefyd yn sgil gwaith ar dwnnel.

Roedd disgwyl cryn darfu tan ganol y prynhawn heddiw (dydd Llun, Tachwedd 4).

Mae hediadau i mewn ac allan o faes awyr Barcelona hefyd wedi’u heffeithio, gyda llifogydd mewn rhai ardaloedd o’r adeilad.

Mae cyngor hefyd i rieni beidio â chasglu eu plant o’r ysgol, gan fod ysgolion yn cael eu hystyried yn “fannau diogel”, ac mae gweithwyr yn cael eu hannog i aros yn y gweithle.

Mae nifer o brifysgolion Catalwnia wedi canslo darlithoedd, gan ofyn i fyfyrwyr beidio teithio.

Mae 217 o bobol wedi marw yn sgil llifogydd yn Sbaen hyd yma, gyda’r rhan fwyaf ohonyn nhw’n byw yn Valencia.

Dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd faint o bobol sydd yn dal ar goll.