Mae ymgyrchwyr amgylcheddol wedi bod yn galw ar y diwydiant yswiriant i roi’r gorau i gynnig polisïau i gwmnïau sy’n “droseddwyr tanwydd ffosil”.

Dros y dyddiau diwethaf, mae miloedd o bobol, gan gynnwys ymgyrchwyr o Gymru, wedi bod yn cefnogi ymgyrch Insure Our Survival gan grŵp Gwrthryfel Difodiant.

Mae protestiadau mawr wedi’u cynnal yn Llundain a Manceinion, yn galw ar gwmnïau i beidio yswirio prosiectau olew, nwy a glo newydd.

Ddydd Sadwrn (Tachwedd 2), bu aelodau o Gwrthryfel Difodiant Bangor, Wrecsam a Glannau Mersi yn picedu siop cwmni yswiriant Howden’s yng Nghaer.

Cafodd pamffledi a llythyrau eu postio drwy’r drws yn gofyn i’r staff fod yn “arwyr amgylcheddol” ac annog eu cwmni i roi’r gorau i yswirio prosiectau tanwydd ffosil newydd.

“Rydyn ni yma yn Howden Insurance oherwydd, heb yswiriant, bydd rhaid i droseddwyr tanwydd ffosil stopio’u gwaith yn difetha’r blaned, oherwydd fedran nhw ddim fforddio’r gost ariannol pan fo rhywbeth yn mynd o’i le,” meddai Ian Birch o Gwrthryfel Difodiant.

“Mae Howden Insurance Group yn un sy’n yswirio’r gwaith yma.”

‘Cau’r diwydiant ffosil lawr’

Cyfeiria Ian Birch at adroddiad sefydliad amgylcheddol Potsdam, wnaeth rybuddio fis Hydref ein bod ni’n agos at “drychineb hinsawdd ddi-droi’n-ôl”.

“Rydyn ni’n cyrraedd cam newydd hollbwysig ac anrhagweladwy o’r argyfwng hinsawdd… gallwn ni nawr ond gobeithio cyfyngu graddfa’r difrod,” medd yr adroddiad.

Ychwanega Ian Birch y gallai’r diwydiant yswiriant fod yn “arwyr hinsawdd” a defnyddio’u grym i “gau’r diwydiant tanwydd ffosil i lawr” a “helpu i achub y ddynoliaeth a’r biosffer rydyn ni’n dibynnu arno”.

“Yn hytrach, mae Grŵp Yswiriant Howden yn dweud y byddan nhw’n garbon niwtral erbyn 2030, tra’n hwyluso prosiectau tanwydd ffosil i helpu i greu tywydd eithafol sy’n llifogi’n tai, yn effeithio ar ein cyflenwad bwyd, ac yn bygwth lladd biliynau o bobol yn ystod ein hoes ni.”

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Howden’s.