Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru’n rhybuddio y bydd meddygon teulu a darparwyr gofal Cymru’n cael eu “gwthio i’r dibyn” oni bai eu bod nhw’n cael eu heithrio o’r cynnydd yng nghyfraniadau gweithwyr tuag at eu Hyswiriant Gwladol eu hunain.
Yng Nghyllideb y Canghellor Rachel Reeves yr wythnos ddiwethaf, daeth cadarnhad y bydd cyfraniadau gweithwyr at Yswiriant Gwladol yn codi o 13.8% i 15% o fis Ebrill.
Mae meddygon teulu a darparwyr gofal Cymru eisoes mewn argyfwng, a byddai cynnydd yn y dreth yn ychwanegu at y pwysau arnyn nhw, yn ôl David Chadwick, diprwy arweinydd y blaid.
Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi darparu cyllid ychwanegol i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus i dalu cost y cynnydd, a dywed Jo Stevens, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, y bydd cyllid tebyg ar gael i gyrff cyhoeddus yng Nghymru.
Fodd bynnag, mae meddygon teulu a mwyafrif helaeth y darparwyr gofal yng Nghymru yn breifat, ac felly dydyn nhw ddim yn elwa ar y cymorth hwn.
Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn galw am eithrio gwasanaethau iechyd a gofal hollbwysig yng Nghymru o’r cynnydd yng nghyfraniadau gweithwyr at Yswiriant Gwladol.
Fel arall, medden nhw, mae gwasanaethau mewn perygl o gau neu eu dirwyn i ben.
Dyfodol meddygon teulu yn y fantol
“Bydd penderfyniadau’r Canghellor yn y Gyllideb yn gwthio’r gwasanaethau hollbwysig i’r dibyn,” meddai David Chadwick.
“Gallai rhai hyd yn oed gael eu gorfodi i gau.
“Mae dwsinau o feddygon teulu sy’n pryderu am yr effaith y bydd hyn yn ei chael ar eu practis wedi cysylltu â mi eisoes.
“Rhaid i bobol allu cael mynediad at wasanaethau iechyd a gofal teilwng.
“Er mwyn cyflawni hyn, mae’n rhaid i’r Llywodraeth newid trywydd ac eithrio meddygon teulu a darparwyr gofal ledled Cymru o’r cynnydd yn y dreth.”