Roedd YesCymru, y mudiad dros annibyniaeth i Gymru, yn dathlu ei ben-blwydd yn ddeg oed ar Dachwedd 1. Dyma atgofion un o’r sylfaenwyr o’r cyfnod pan gafodd y mudiad ei sefydlu…
Ydy hi wir gymaint â deng mlynedd yn ôl? Anodd a rhwydd ei gredu ar yr un pryd: mae llawer o ddŵr wedi llifo dan lawer i bont ers hynny.
Yn ôl yn ystod is-etholiad Dwyrain Glascau (Glasgow) yn 2008 y bu fy ymwneud uniongyrchol cyntaf go iawn gyda’r ymgyrch dros annibyniaeth yng ngwlad ein cefndryd Celtaidd. Bues i a Geraint Day, Pennaeth Ymgyrchu Plaid Cymru, yno i ymgyrchu dros yr SNP mewn sedd ymylol rhyngddyn nhw a Llafur. Arhosais i mewn twll o le, yn unol ag arfer y Blaid o wario cyn lleied â phosibl – darpariaeth brecwast y lle oedd peiriant a ollyngai rawnfwyd diflas ei olwg mewn powlen wedi i chi fwydo ambell i geiniog iddo. Efallai nad oedd y brecwast yn werth y pris, ond roedd y daith yn sicr yn werth y pris – y wefr rwy’ dal yn ei chofio o gael cwrdd ag Alex Salmond a Nicola Sturgeon – arwyr y mudiad cenedlaethol – a hynny mewn garej gwerthu ceir ail law o bob man! Cawr o ddyn oedd y diweddar Alex, ac yntau’n arllwys ryw ddiod feddal felys lawr ei wddf. Ysgwydodd Nicola fy llaw yn gwrtais – corff a llaw fechan, ond gallu enfawr amlwg.
Dau gwestiwn canfasio roeddwn i dan gyfarwyddyd i’w gofyn yn ystod y wibdaith ymgyrchu honno yn ystadau tai a blociau fflatiau mawrion yr ardal – am bleidlais dros yr SNP, wrth reswm, ond hefyd pa mor debygol y byddai’r pleidleisiwr o gefnogi annibyniaeth i’w gwlad; cwestiwn nad oes neb, hyd y gwn i, wedi’i ofyn yn rhagweithiol wrth ganfasio yn enw Plaid Cymru yn ei chan mlynedd gyfan fel plaid wleidyddol – rhywbeth sydd gwir angen ei newid os ydyn ni fel Cymry am ennill ein rhyddid ein hunain. Roedd yr SNP o ddifrif, ond doedd gen i – nac efallai hwythau – fawr o syniad am yr hyn fyddai ar droed ymhen ychydig flynyddoedd wedi hynny.
Wedi perfformiad siomedig Plaid Cymru yn etholiadau 2011, fe luniais i (gan achub ar y cyfle mae colled yn ei gynnig) y cynnig newidiodd ei chyfansoddiad i ddatgan yn gwbl eglur ei hamcan i ennill annibyniaeth i Gymru. Pasiodd y cynnig yn unfrydol; gwelais i hyd yn oed Dafydd Elis-Thomas yn codi ei law o’i blaid. Heb os, roedd yn arwydd clir fod dadleuon ddechrau’r ganrif oddi mewn i rengoedd y Blaid ynghylch ffwlbri ‘statws cenedlaethol llawn’ wedi’u hen ennill.
Yn weddol gynnar yn 2014, bues i’n ffodus iawn i fod yn un o griw Cymdeithas yr Iaith deithiodd lan i’r Alban i gwrdd ag ymgyrchwyr yno i ddysgu a deall am yr ymgyrch dros annibyniaeth. A hynny dan arweiniad swyddog rhyngwladol y Gymdeithas ar y pryd, y dihafal Sioned Haf. Roedd yr Alban honno yn wahanol iawn i’r hyn welais i yn 2008: dw i erioed wedi gweld democratiaeth mor gynhyrfus ar waith yn fy myw! Roedd teimlad bod mudiadau, grwpiau a dadleuon yn codi o bob twll a chornel – enfys o syniadau blaengar o du’r Ymgyrch Annibyniaeth Radical (RIC), Gwyrddion dros Ie, Menywod dros Ie, a sawl un arall. A chefais i’r fraint o gwrdd â nifer o arweinwyr y grwpiau hynny, rhai sydd wedi mynd yn eu blaenau i gael eu hethol i Senedd Holyrood ers hynny.
Cael fy nal mewn hanes
Dylid gweld fy ymwneud â sefydlu YesCymru yn y cyd-destun hwnnw – cefais i’m dal mewn hanes mewn gwirionedd. Yn haf 2014, daeth yn amlwg y gallai Cymru gael ei dal ar ei hôl hi gan ddatblygiadau yn yr Alban, a bod rhaid i ni felly fynd ati o ddifrif i ddechrau ymgyrchu dros annibyniaeth i Gymru. Teg dweud y cafodd sawl un yr un syniad ar yr un pryd, ond rwy’ ond yn gallu ysgrifennu’r hanes o’m persbectif i.
Roeddwn i’n byw yn y brifddinas ar y pryd, ac yn gweithio’n agos gydag Osian Rhys (dyn hynod ddibynadwy a heb ei ail rwy’n ffodus i allu ei alw’n gyfaill o hyd) wrth ymgyrchu’n ddyfal dros Gymdeithas yr Iaith. Roedd rhywun wedi sefydlu cyfrif Twitter poblogaidd iawn ‘Wales for Yes Scotland’, os cofia i’n iawn. Wrth reswm, yn ein heithafiaeth iaith, bues i ac Osian yn cwyno nad oedd y cyfrif yn rhannu ei negeseuon yn Gymraeg. Ceisiom am gyfarfod gyda’r unigolyn oedd y tu ôl i’r cyfrif, ond ni newidodd ei barn mewn cyfarfod gafodd ei gynnal yn Chapter rywbryd yn ystod haf 2014.
Gwn y buodd Hedd Gwynfor – eto’n ymgyrchydd selog gyda’r Gymdeithas – yn rhan o drefnu rali tu allan i’r Senedd i gefnogi annibyniaeth i’r Alban. Os cofia i’n iawn, bues i yno, ond i gynnal stondin i werthu nwyddau’r Gymdeithas, ac yn eithaf ymylol i’r holl beth. Rali weddol lwyddiannus, ond dim byd oedd yn arwydd o ryw newid ym meddylfryd y Cymry, er i Leanne Wood, arweinydd y Blaid, dorri tir newydd drwy siarad yn glir ac eofn o blaid annibyniaeth.
Y cyfarfod cyntaf
Fodd bynnag, rywsut neu’i gilydd, fe wnaeth y ffraeo am yr iaith a rali Hedd ysgogi criw ohonom i gwrdd yn y Chapter yng Nghaerdydd ryw noson i drafod y ffordd ymlaen. O’r unigolion oedd yno ar Fedi 27, 2014, dim ond un oedd yno nad oedd yn aelod nac wedi bod yn weithgar gyda Chymdeithas yr Iaith. Felly, fel llawer o’r hyn sy’n werthfawr i’r achos cenedlaethol yng Nghymru, spin-off neu brosiect ar yr ochr i Gymdeithas yr Iaith oedd YesCymru ar y cychwyn.
Dim ond saith ohonom ni fynychodd ac, yn wir, cafwyd mwy o ymddiheuriadau na phenolau ar seddi. Rwy’n gwybod hynny’n iawn achos fy mod i’n ddigon ffodus (neu’n ddigon anhrefnus!) o fod wedi cadw cofnodion y cyfarfod hwnnw yng nghrombil fy e-byst. Dogfen ddwyieithog ydyw am ryw reswm, er y cafodd y cyfarfod ei gynnal yn Gymraeg yn unig. Ynddi, mae’r cysylltiad gyda’r ffrae a fu gyda ‘Wales for Yes’ yn amlwg, gan fod cytundeb i estyn allan atyn nhw eto’r noson honno. Cefais i a dau arall y swyddogaeth o lunio pwrpas y grŵp – felly dylwn i dderbyn rhywfaint o’r cyfrifoldeb am y problemau ddaeth yn ddiweddarach yn hanes y mudiad o bosibl.
Doedd dim teimlad arbennig i’r cyfarfod: wedi’r cwbl, fel ymgyrchydd dros y Gymdeithas, roeddwn i wedi cael sawl profiad o fynd i gyfarfodydd na arweiniodd at ddim o sylwedd. Ni theimlai’r cyfarfod hwnnw fawr wahanol. Un o’r ychydig bethau sy’n aros yn y cof yw cyfarwyddyd rhyfedd y dyn ddigwyddodd gadeirio’r cyfarfod hwnnw, ofynnodd i bawb ddiffodd eu ffôn symudol a’u rhoi o’r neilltu; syniad gafodd ei wfftio’n llwyr gennyf innau a phawb arall fel paranoia gwallgof ar y pryd, ond yn fwy diweddar mae’r sylw wedi fy nharo fel un mwy arwyddocaol nag a fu.
Dwn i ddim pryd, ond rwy’n cofio dadlau gyda Siôn Jobbins ar ryw bwynt am yr enw, ond mae’n debyg mai rhywbryd yn ystod mis Hydref yr un flwyddyn oedd hi. Roedd nifer o enwau eithaf gwael yn cael eu hystyried – a finnau’n dadlau’n danbaid fod angen i’r mudiad fod ag enw uniaith Gymraeg. Buodd Siôn yn ddigon craff (neu ystyfnig!) i’m hanwybyddu, ac yntau awgrymodd yr enw ‘YesCymru’, os cofia i’n iawn.
Bues i’n absennol o’r cyfarfod dilynol ar Dachwedd 1 yng Nghaerfyrddin bennodd yr enw YesCymru yn swyddogol, ac a dderbyniodd y cynnig y bues i’n rhan o’i lunio am bwrpas a chyfansoddiad y grŵp newydd. Dros y misoedd nesaf, byddai’r grŵp yn cwrdd yn rheolaidd a byddwn i’n gwasanaethu fel swyddog ac aelod o’r pwyllgor ar adegau gwahanol dros y cyfnod nesaf – ac rwy’n cofio nifer o gyfarfodydd amrywiol, gan gynnwys rhai yn IndyCube yng Nghaerdydd.
Y mudiad yn magu coesau
Penwythnos arwyddocaol arall ddaeth oedd un ym mis Hydref y flwyddyn ganlynol yn Nhresaith. Ar y pryd, roedd y Ganolfan yn y pentref hwnnw yn fan cwrdd cyson i swyddogion Cymdeithas yr Iaith, a hynny oherwydd cefnogaeth y perchennog Dr Dilys Davies. Llety rhad, gwlâu bunk, cegin gymunedol, ac ystafell gyffredin – a hynny yn edrych dros un o draethau bendigedig Ceredigion – perffaith ar gyfer trin a thrafod dwys ar wleidyddiaeth y dydd. Gwnaed nifer o benderfyniadau pwysig am agor aelodaeth i eraill, sefydlu cyfrifon cyfryngau cymdeithasol a lansiad YesCymru yng Nghaerdydd. Efallai bod llun o’r penwythnos hwnnw gennyf o hyd yn rhywle – finnau yn sefyll yn y tywyllwch ar draeth Llangrannog wedi noson llawn hwyl yn nhafarn y Pentref Arms yn y pentref nesaf lan yr arfordir yn Llangrannog. Yn ôl Siôn Jobbins, roedd gêm Bosnia Herzogovina v Cymru ymlaen ar yr un noson – rhan o gemau rhagbrofol Cymru i fynd i Ewro 2016.
Des i yn ôl i mewn i galon y mudiad yn 2017, wedi i mi helpu i lunio’r llyfryn Annibyniaeth yn dy boced (dogfen syrthiodd yn brin o’m gobeithion personol) a’i lansio yn Ystafell Seddon yn yr Hen Goleg yn Aberystwyth. Cefais fy ethol i’r pwyllgor canolog eto yn y cyfarfod hwnnw y daeth tua 70 iddo. Yn anghyffredin i mi, traddodais i araith am y llyfryn a chefais i ymateb gwresog er mawr syndod i mi. Cafodd yr holl ddigwyddiad ei drefnu’n effeithiol iawn yn union fel y byddai cyfarfod cyffredinol Cymdeithas yr Iaith, gan Hedd Gwynfor a Bethan Williams rwy’n credu.
Cyfnod cythryblus, ond mudiad sy’n dal i brofi’i werth
Yn ystod y flwyddyn ganlynol y daeth problemau cynta’r mudiad i’r golwg, ond nid nawr yw’r amser i adrodd y stori honno’n llawn. Ni fues yn aelod wedi’r cyfnod cythryblus hwnnw, ac ymddygiad cwpl o swyddogion a weithredodd yn fy erbyn i ac un aelod arall. Cymaint fuodd fy siom gyda’r llond llaw o unigolion hynny, ni fynychais y cyfarfod cyffredinol nesaf. Digwydd bod i’r aelodau cyffredin ddyfarnu’n glir o’m plaid, gan ddilysu fy safiad a chlirio fy enw yn llwyr. Ond er i mi a’r unigolyn arall adennill yr hawl i ymaelodi, ni wnaethom, gan droi at waith ymgyrchu arall yn lle. Profodd y digwyddiadau hynny yn rhagflas o’r hyn oedd i ddod ac, yn anffodus iawn, profodd sawl un straen a phroblemau ofnadwy oherwydd yr un criw bach o ddrwgweithredwr (nad ydyn nhw bellach yn rhan o’r mudiad, diolch byth).
Boed hynny fel y bo, mae YesCymru wedi profi, ac yn dal i brofi, ei werth. Rydyn ni’n ffodus iawn – fel mae sawl un o’r Alban wedi nodi – fod gennym fudiad torfol sy’n ymgyrchu dros annibyniaeth. Ac er gwaetha’r problemau a fu, mae gennyf lawer o hyder yn arweinyddiaeth bresennol YesCymru, yn rhannol gan y daw cynifer ohonyn nhw o Ferthyr – heb os, yr ardal bwysicaf yn hanes radicaliaeth Cymru. Felly, heddiw, rwy’ wedi ailymaelodi â’r mudiad y bues i, drwy hap a damwain, yn rhannol gyfrifol am ei sefydlu mewn ffreutur yn 2014, a hynny am y tro cyntaf ers dros chwe blynedd. Dw i’n annog eraill i ystyried gwneud yr un peth – mae’r deng mlwyddiant yn gyfle i gymodi a dod yn ôl at ein gilydd eto.
Rwy’n argyhoeddedig y byddwn ni’n ymgyrchu mewn refferendwm dros annibyniaeth i Gymru o fewn y deng mlynedd nesaf. Yn eironig ddigon, o ystyried pa mor ganolog yw’r Alban i hanes sefydlu YesCymru, erbyn hyn mae’n bosibl y daw rhyddid i Gymru cyn ein cyfeillion yn yr Hen Ogledd. Bydd deng mlynedd nesa’r mudiad annibyniaeth yn rhai diddorol ar y naw!