Mae’r broses o ethol aelodau i Senedd Ieuenctid Cymru bellach wedi dechrau.
O heddiw (dydd Llun, Tachwedd 4) hyd at Dachwedd 21, bydd cyfle i bobol ifanc Cymru bleidleisio ar-lein i ddewis eu cynrychiolwyr.
Mae 60 sedd ar gael, gyda 453 o ymgeiswyr ifainc yn brwydro amdanyn nhw, ac mae disgwyl cyhoeddi’r canlyniadau ddechrau mis Rhagfyr.
Mae modd ymgeisio i bleidleisio ar wefan Senedd Cymru, ac mae’n rhaid bod rhwng unarddeg a 17 oed, a bod yn byw yng Nghymru neu’n derbyn addysg yma, er mwyn pleidleisio.
Cyfrifoldebau
Bydd aelodau newydd Senedd Ieuenctid Cymru yn “cynrychioli barn eu cyfoedion i’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau ar y lefel uchaf yng Nghymru ac yn dewis eu materion blaenoriaeth eu hunain i ganolbwyntio arnynt,” medd y disgrifiad o’r dyletswyddau.
Rhwng 2018 a 2020, sef cyfnod y Senedd Ieuenctid gyntaf, roedd yr aelodau wedi pleidleisio i weithio ar sgiliau bywyd yn yr ysgol, gwastraff plastig a chymorth iechyd emosiynol ac iechyd meddwl i bobol ifanc.
Cwricwlwm ysgol, iechyd meddwl a lles, a’r hinsawdd oedd blaenoriaethau’r ail Senedd.
Mae aelodau’n llunio adroddiadau ar y pynciau cyn i Weinidogion Llywodraeth Cymru ymateb yng nghyfarfodydd y Senedd Ieuenctid.
Mae disgwyl i gyfarfod cyntaf trydedd Senedd Ieuenctid Cymru gael ei gynnal ar-lein yn ystod ail wythnos mis Rhagfyr.