Bydd fêps untro’n cael eu gwahardd yng Nghymru ym mis Mehefin 2025.
Mae Comisiynydd Plant Cymru ymhlith y rhai sydd wedi croesawu’r cyhoeddiad, gan ddweud ei bod hi wedi clywed am blant yn mynd i’r ysgol uwchradd yn gaeth i fêpio.
Mae arolwg gan ASH Cymru o fis Mai yn dangos bod 24% o blant Blwyddyn 7-11 wedi fêpio, tra bo’r ganran yn codi i 44% ar gyfer disgyblion chweched dosbarth.
Cafodd y cyhoeddiad ei wneud gan Huw Irranca-Davies, Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd Newid Hinsawdd Cymru, ddoe (dydd Mawrth, Hydref 22), wrth iddo ddweud bod y gwaharddiad yn rhan o’r ymdrechion i fynd i’r afael â llygredd plastig.
Bydd y gwaharddiad newydd yn dod i rym ar Fehefin 1 y flwyddyn nesaf, ac mae disgwyl i’r gwaharddiad ddod i rym ledled y Deyrnas Unedig tua’r un pryd.
Gweithredu camau pellach
Wrth ymateb, dywed Rocio Cifuentes, Comisiynydd Plant Cymru, ei bod hi’n “falch iawn” o weld y gwaharddiad yn cael ei gadarnhau.
“Mae plant yn dod i’r ysgol uwchradd o ysgolion cynradd yn gaeth i fêpio – dyma un o lawer o bethau pryderus iawn dw i wedi’u clywed dros y flwyddyn ddiwethaf mewn sgyrsiau gyda phlant ac oedolion am fêpio,” meddai.
“Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru barhau i ddefnyddio’r holl bwerau sydd ar gael iddyn nhw i weithredu newidiadau pwysig eraill gafodd eu hargymell gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gynharach eleni.
“Mae hyn yn cynnwys darparu cymorth i bobol ifanc sy’n ddibynnol ar nicotin oherwydd fêpio, cyfyngu ar flasau ac enwau blasau, a gorfodi rheolau pecynnu plaen.”
Er bod fêps yn llai peryglus nag ysmygu, mae peryglon o hyd, yn enwedig i blant a phobol ifanc gan fod eu hysgyfaint a’u hymennydd yn dal i ddatblygu a’u bod nhw, felly, yn fwy sensitif i ba mor gaethiwus y gall fod.
‘Lleihau gwastraff’
Dywed Huw Irranca-Davies fod y polisi’n cael ei ddatblygu ledled y Deyrnas Unedig, a bod y gwledydd unigol yn bwriadu cydgysylltu’r gwaith o gyflwyno a gweithredu’r gwaharddiad.
“Bydd cyflwyno’r Rheoliadau hyn yn gam hanfodol arall wrth fynd i’r afael â sbwriel a llygredd plastig sy’n amharu ar ein hamgylchedd,” medd y Dirprwy Brif Weinidog.
“Bydd yn lleihau faint o wastraff rydym yn ei gynhyrchu, yn diogelu ein cymunedau, ein bywyd gwyllt a’n hecosystemau er mwyn i genedlaethau’r dyfodol eu mwynhau.”