Mae’n rhaid gwahardd fêps untro yn hytrach na gwahardd blasau gwahanol, yn ôl perchennog siop fêps yng Nghaernarfon.
Daw sylwadau Simon Erridge o siop Air Vape Store yn dilyn y newyddion bod Llywodraeth Cymru’n darparu cyllid i Safonau Masnach Cymru er mwyn helpu i fynd i’r afael â fêpio anghyfreithlon yng Nghymru.
Yn ogystal, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi argymell cyflwyno rheoleiddio ar gyfer fêps tebyg i’r hyn sydd ar dybaco, gan gynnwys gwahardd blasau deniadol.
“Byddai torri lawr ar flasau yn newyddion drwg iawn i bawb; dwi’n meddwl yn bersonol mai’r hyn fyddai’n well ei wneud yw gwahardd fêps untro,” meddai Simon Erridge wrth golwg360.
“Y pryder yw y gall unrhyw un eu prynu a’u gwerthu yn eu siopau; does dim rhaid iddyn nhw fod yn siopau fêps arbenigol.”
Dywed ei fod yn deall y cynnwrf “cwbl briodol” yn sgil y ffaith ei bod yn rhy hawdd i blant gael gafael ar fêps untro.
“Mae mwyafrif y siopau fêps call yn gofyn am gerdyn adnabod gan bawb, a fydden nhw ddim yn gwerthu unrhyw beth i blant.
“Felly byddai gwahardd fêps untro’n atal y broblem wrth ei gwraidd.”
Llai o bobol ifanc yn eu prynu
Er gwaethaf poblogrwydd fêps untro ymysg pobol ifanc, dywed Simon Erridge ei fod wedi gweld gostyngiad yn nifer y plant sy’n ceisio’u prynu.
“I ddechrau, pan ddaeth nwyddau tafladwy i’r farchnad am y tro cyntaf tua phedair blynedd yn ôl, roeddwn i’n gorfod gwirio oedran efallai 30 i 40 o bobol yr wythnos,” meddai wedyn.
“O’r rheiny, roedd tua’u hanner o dan oed.”
Ychwanega ei fod wedi sylweddoli bod llawer o bobol yn troi oddi wrth fêps untro bellach, oherwydd eu bod yn “ffordd aneffeithlon a drud” o fêpio.
“Byddem yn hapus iawn pe baen nhw’n cael gwared ar fêps untro,” meddai.
“Rwy’n llwyr gasáu’r pethau.
“Yr unig reswm rydyn ni’n eu gwerthu nhw ydy oherwydd bod pawb arall yn eu gwerthu.
“Os nad ydych chi’n eu gwerthu nhw, yna fydd pobol ddim yn dod i mewn i’ch siop yn y lle cyntaf, ac wedyn fedrwch chi ddim eu hannog nhw i droi at fêps mae modd eu hailddefnyddio.
“Pe bydden nhw’n gwahardd nwyddau tafladwy, dw i wir yn meddwl y byddai’n gwella busnes i ni yn hytrach na bod yn niweidiol.”
Gwarchod busnesau cyfreithlon
Bydd swyddogion Safonau Masnach Cymru’n mynd i’r afael â fêpio anghyfreithlon drwy gynnal profion prynu, canfod manwerthwyr twyllodrus, ac atal cynhyrchion anghyfreithlon mewn porthladdoedd a’u tynnu nhw oddi ar silffoedd.
“Ni fydd y cyflenwad o fêps anghyfreithlon yn cael ei oddef yng Nghymru,” meddai Lynne Neagle, y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Lles yn Llywodraeth Cymru.
“Mae hon yn broblem gymhleth ar raddfa fawr sy’n effeithio ar bob cymuned yng Nghymru, a bydd y cyllid rydym yn ei ddarparu yn helpu swyddogion gorfodi i atal cynhyrchion fêpio anghyfreithlon rhag cael eu gwerthu yng Nghymru.
“Nid yn unig maen nhw’n cael eu gwerthu’n anghyfreithlon i blant, ond mae rhai hefyd yn gallu bod yn niweidiol i iechyd, a chanfuwyd eu bod nhw’n cynnwys cemegau peryglus a lefelau niweidiol o fetelau fel plwm.
“Mae hyn o fudd i’r amgylchedd hefyd, gyda llai o’r cynhyrchion hyn allai fod yn beryglus yn niweidio ein hamgylchedd trwy gael eu gwared yn anghywir.”
Ychwanega y byddai’r mesurau yn gwarchod plant a phobol ifanc, tra bydden nhw hefyd yn gwarchod busnesau fêps sy’n gweithredu’n gyfreithlon.