Mae’r brodyr Alan ac Eifion Jones, dau o hoelion wyth Clwb Criced Morgannwg, wedi derbyn graddau er anrhydedd gan Brifysgol Abertawe.
Maen nhw’n ddau o unarddeg o blant, ac fe ddechreuodd eu taith yn y byd criced ar gaeau lleol anwastad, ergyd chwech o’u cartref ar gyrion y ddinas yn Felindre, lle defnyddion nhw eu batiau criced pren gafodd eu creu gan eu tad.
Ar ôl creu argraff wrth chwarae ar lefel leol, dechreuon nhw ymarfer yn yr ysgol griced dan do yng Nghastell-nedd sydd wedi helpu cenedlaethau o gricedwyr Morgannwg wrth iddyn nhw ddatblygu eu doniau.
Bu’n rhaid iddyn nhw fynd â’u cit ar daith o chwe milltir ar droed pe baen nhw’n methu’r bws olaf adref.
Gyrfaoedd y ddau frawd
Ymunodd Alan Jones â Morgannwg yn 1957, bedair blynedd cyn ei frawd Eifion.
Batwyr oedd y ddau yn wreiddiol, cyn i Eifion ddarganfod ei ddawn fel wicedwr.
Fe wnaeth y ddau ymddeol ar ddechrau’r 1980au, cyn i Alan fynd yn ei flaen i hyfforddi amryw o dimau’r sir.
Roedd Alan, yn fatiwr agoriadol llaw chwith, yn adnabyddus am ganolbwyntio’n ddiwyro, gweld y bêl yn gyflym, symud ei draed yn sicr a’i ddewrder.
Yn ystod ei yrfa, sgoriodd e fwy na 1,000 o rediadau bob tymor am 23 o flynyddoedd yn olynol.
Bu’n gapten ar Forgannwg yn 1977 a 1978, a chafodd ei enwi’n Gricedwr y Flwyddyn gan Wisden yn 1978 ar ôl i Forgannwg gyrraedd rownd derfynol y gwpan yn Lord’s y tymor cynt.
Daeth un o’i fatiadau bythgofiadwy ym mis Gorffennaf 1966, pan sgoriodd e 161 heb fod allan yn erbyn bowlwyr ffyrnig India’r Gorllewin, gan sicrhau buddugoliaeth i Forgannwg.
Derbyniodd MBE yn 1982, ac ar ôl ymddeol y flwyddyn ganlynol y daeth yn hyfforddwr ac yna’n Llywydd Clwb Criced Morgannwg yn ddiweddarach.
Cafodd Eifion ei glodfori am ei ddawn fel wicedwr o ddiwedd y 1960au nes iddo ymddeol.
Gosododd recordiau, gan gynnwys cyfrannu at 94 o wicedi dosbarth cyntaf yn 1970 a chyflawni’r sgôr uchaf gan wicedwr i Forgannwg, sef 146 heb fod allan yn 1968 – gydag Alan ben draw’r llain.
‘Anrhydedd fawr’
“Mae’n anrhydedd mawr i mi dderbyn y gydnabyddiaeth hon, yn enwedig gan Brifysgol Abertawe,” meddai Alan Jones.
“Ar ôl tyfu i fyny yn yr ardal a threulio cyfran sylweddol o’m gyrfa yn y byd criced ar faes San Helen, mae gen i lawer o atgofion hapus o’r cyfnod hwnnw.”
‘Braint’
“Mae’n fraint derbyn yr anrhydedd hon gan Brifysgol Abertawe,” meddai Eifion Jones.
“Graddiodd fy wyresau y llynedd, ac er syndod i bawb, dyma fi’n cael cyfle i wisgo’r clogyn a’r het eleni!
“Bydda i bob amser yn falch o’m gyrfa fel cricedwr proffesiynol, ac mae derbyn yr anrhydedd hon yn Abertawe, dinas lle chwaraeais i lawer o gemau cofiadwy i Forgannwg, yn bwysig i mi.”