Mae Samson Lee, sy’n 31 oed, wedi cyhoeddi ei fod e wedi ymddeol o’r byd rygbi oherwydd anaf.

Chwaraeodd y prop 164 o weithiau i’r Scarlets dros gyfnod o ddeuddeg tymor, gan ennill 45 o gapiau dros Gymru – daeth ei gap cyntaf yn erbyn yr Ariannin yn 2013.

Chwaraeodd e yng Nghwpan Rygbi’r Byd yn 2015, ac roedd e’n aelod o garfan Cymru enillodd y Gamp Lawn yn 2019.

Roedd e hefyd yn aelod allweddol o dîm y Scarlets enillodd y gynghrair yn 2016-17.

Ond dydy e ddim wedi chwarae ers mis Mawrth y llynedd, pan rwygodd e gyhyr yn ei goes yn Ne Affrica.

Dywed ei fod e wedi cael “deunaw mis anodd”, ac nad yw e wedi gallu gwella o’r anaf er mwyn cael chwarae eto, a’i fod yn gadael y cae am y tro olaf “â llawer i’w gynnig o hyd”.

Bydd e’n arwain y Scarlets allan i’r cae cyn eu gêm yn erbyn y Gweilch ar Ddydd San Steffan.

Teyrnged

Dywed Dwayne Peel, prif hyfforddwr y Scarlets, fod Samson Lee wedi bod yn “rhan fawr o’r clwb hwn ers amser hir”, a’i fod e’n “gymeriad gwirioneddol ac yn arweinydd”.

Ychwanega ei fod yn “un o’n propiau pen tynn gorau erioed” ac yn “chwaraewr roddodd bopeth i’r crys”.

Mae e wedi dymuno’n dda iddo fe ar gyfer y dyfodol.