Mae adroddiadau y gallai Graham Potter, cyn-reolwr tîm pêl-droed Abertawe, gael ei benodi’n rheolwr Manchester United pe baen nhw’n diswyddo Erik ten Hag.
Mae Syr Jim Ratcliffe, perchennog Ineos – tîm seiclo Ineos, sef tîm Geraint Thomas a Dave Brailsford – yn gobeithio buddsoddi yn y clwb, ac mae lle i gredu mai Potter fyddai ei ddewis cyntaf i fod yn rheolwr.
Mae ten Hag o dan gryn bwysau yn dilyn y golled ddiweddaraf o 1-0 yn erbyn Bayern Munich yng Nghynghrair y Pencampwyr ddechrau’r wythnos, gan ddod â’u hymgyrch Ewropeaidd i ben.
Dydy Graham Potter heb fod mewn swydd ers iddo fe gael ei ddiswyddo gan Chelsea ym mis Ebrill, ac roedd Syr Jim Ratcliffe yn awyddus i’w benodi’n rheolwr ar dîm Nice yng nghynghreiriau Ffrainc yn fwyaf diweddar.
Mae disgwyl iddo fe brynu 25% o Manchester United yr wythnos nesaf, gan gymryd rheolaeth o weithrediadau pêl-droed y clwb.
Daw hyn ar ôl i Graham Potter wrthod cynnig i ddod yn rheolwr Stoke yr wythnos hon.