Mae Jonathan Thomas wedi gadael tîm hyfforddi rygbi Cymru, ar ôl i’w gytundeb gydag Undeb Rygbi Cymru ddod i ben, ac mae Rob Howley wedi dychwelyd am y tro cyntaf ers iddo fe gael ei ddiswyddo yn sgil helynt betio adeg Cwpan y Byd 2019.

Cafodd Thomas ei benodi’n hyfforddwr ardal y dacl pan ddychwelodd Warren Gatland yn brif hyfforddwr.

Dywed ei fod e wedi penderfynu gadael “i ddilyn cyfleoedd eraill yn y byd rygbi”.

Mewn datganiad, ychwanega ei fod yn hyfforddi ysgol leol yng Nghaerloyw ers diwedd Cwpan y Byd, a bod hynny wedi dylanwadu ar ei benderfyniad.

‘Aelod pwysig o’r tîm’

“Mae Jonathan wedi bod yn aelod pwysig o’r tîm,” meddai Warren Gatland.

“Mae e’n hyfforddwr ardderchog sydd â dyfodol disglair yn y gêm, ac mae e wedi gwneud cyfraniad gwerthfawr i ddatblygiad y tîm, yn enwedig yn ystod Cwpan y Byd yn Ffrainc.

“Rydym yn dymuno’n dda iddo fe ar gyfer ei gynlluniau at y dyfodol, a dw i’n gwybod y bydd e’n ased i unrhyw dîm ym mha bynnag gapasiti mae’n dewis ei ddilyn nesaf.”

Rob Howley yn ei ôl

Rob Howley

Bydd Rob Howley yn dychwelyd i’r tîm hyfforddi ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn y gwanwyn.

Cyn hynny, bydd e’n cynorthwyo’r tîm dan 20 ar gyfer y Chwe Gwlad.

Bu’n aelod o dîm hyfforddi Warren Gatland cyn Cwpan y Byd yn 2019, a chawson nhw gryn dipyn o lwyddiant gan ennill y Bencampwriaeth yn 2013, tair Camp Lawn (2008, 2012 a 2019), a chyrraedd rownd gyn-derfynol Cwpan y Byd yn 2011.

Bydd y cyn-fewnwr yn gofalu am elfennau technegol, gan gydweithio â Mike Forshaw (amddiffyn), Jonathan Humphreys (blaenwyr), Neil Jenkins (sgiliau) ac Alex King (ymosod).

Yn ei rôl newydd, bydd gan Howley gyfrifoldeb arbennig hefyd am lwybr datblygu’r dynion a’r bechgyn.

Bydd yn cydweithio’n agos â Richard Whiffin, prif hyfforddwr newydd y tîm dan 20, gan ddechrau gyda gwersyll ymarfer yn yr Alban yr wythnos nesaf.

Cydweithio eto

Mae Warren Gatland wrth ei fodd fod Rob Howley yn dychwelyd i’r gorlan genedlaethol gyda Chymru yn dilyn cyfnod gyda Chanada.

Yn ogystal â’r profiad o gydweithio â Chymru am gyfnod sylweddol, bu Rob Howley yn aelod gwerthfawr o dîm hyfforddi Warren Gatland ar dair taith y Llewod (2009, 2013, 2017).

“Rob yw un o’r hyfforddwyr Cymreig mwyaf llwyddiannus a phrofiadol ar y llwyfan rhyngwladol ar hyn o bryd,” meddai’r prif hyfforddwr.

“Pan gollon ni Rob o rygbi Cymru, fe gollon ni lawer iawn o ddeallusrwydd a gwybodaeth am y gêm yng Nghymru a’r sîn ryngwladol.

“Rwy’n falch iawn o’i groesawu yn ôl i’r rôl newydd hon.

“Bydd y ffaith y bydd yn gallu dylanwadu ar y llwybrau datblygu mewn modd strategol yn fuddiol i bob rhan o’r gêm, gan gynnwys y tîm o dan 20, y brif garfan, yn ogystal â’n rhanbarthau a’u hacademïau hefyd.

“O safbwynt y brif garfan, rydyn ni wrth ein bodd y bydd yn ymuno gyda ni – ac mae’n dipyn o gamp bod Rygbi Cymru wedi llwyddo i sicrhau ei wasanaeth a’i ddoniau sylweddol unwaith eto.”

‘Yr amser iawn i ddychwelyd’

“Rwy’n teimlo mai dyma’r amser iawn i mi ddod yn ôl, ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at ddychwelyd i’r gorlan gyda Chymru,” meddai Rob Howley.

“Mae gen i ail gyfle i wneud swydd sydd mor bwysig i mi, ac rwy’n ddiolchgar i bawb yn Rygbi Cymru am roi eu ffydd ynof fi. Rwy’n bwriadu ad-dalu’r ffydd hwnnw hyd eithaf fy ngallu.

“Mae’r cyfle i weithio gyda’r timau dan 20 a’r timau iau eraill – a’u helpu i ddatblygu – yn arbennig o gyffrous.

“Rwy’n credu y gallaf eu paratoi ar gyfer heriau rygbi rhyngwladol.

“Rwyf wedi bod trwy gyfnod hynod heriol yn fy mywyd, ond mae siarad yn agored am fy sefyllfa wedi fy ngalluogi i symud ymlaen.

“Rwy’n fwy na pharod i rannu fy mhrofiad gydag eraill allai fod yn profi cyfnodau anodd ac rwy’n ddiolchgar i bawb o’m cwmpas sydd wedi fy nghefnogi trwy’r amseroedd anodd hyn.

“Mae Richard Whiffin yn hyfforddwr ifanc talentog iawn ac mae gennym grŵp gwych o chwaraewyr o dan 20 hefyd.

“Mae’r dyfodol yn edrych yn gadarnhaol iawn yng Nghymru er gwaethaf yr heriau ariannol amlwg sy’n wynebu’r byd ar hyn o bryd.”