Mae’r Prif Weinidog wedi cytuno i gynnal ymchwiliad i honiadau yn erbyn un o weinidogion y Llywodraeth, yn sgil y ffordd wnaeth hi ymdrin â honiadau o gasineb tuag at fenywod yn Undeb Rygbi Cymru.

Yn ôl Tonia Antoniazzi, Aelod Seneddol Llafur Gŵyr, fe wnaeth hi roi manylion cyswllt menywod gafodd eu heffeithio i Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth Cymru, fisoedd cyn i raglen ddogfen y BBC ar y mater gael ei darlledu, ac na wnaeth Dawn Bowden gysylltu â nhw.

Mae Aelod Seneddol Gŵyr hefyd wedi cyhuddo’r gweinidog o “ymdrech sinigaidd i ailysgrifennu hanes” wrth amddiffyn ei hun mewn cyfweliad â’r BBC.

Ynghyd â hynny, mae hi wedi’i chyhuddo o wneud “nifer o honiadau anghywir” am y cyfathrebu rhwng y ddwy am yr honiadau am yr undeb.

Wrth siarad ar raglen Politics Wales, dywedodd Dawn Bowden ei bod hi wedi gofyn i Tonia Antoniazzi am ragor o fanylion, ond nad oedd hi “byth wedi cael hynny”.

“Mae’r Prif Weinidog wedi cytuno ar ymchwiliad Cod Gweinidogol i honiadau a wnaed gan Aelod Seneddol Gŵyr, ar gais Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

Cefndir

Daeth ymchwiliad annibynnol i’r casgliad fis diwethaf fod agweddau ar Undeb Rygbi Cymru’n hiliol, rhywiaethol, misogynistaidd a homoffobig, a bod elfennau o fwlio a gwahaniaethu o fewn amgylchfyd y corff.

Cafodd yr ymchwiliad ei gomisiynu gan yr Undeb ar ôl i raglen BBC Wales Investigates ddatgelu’r honiadau am rywiaeth a chasineb at fenywod ddechrau’r flwyddyn.

Ymddiswyddodd Steve Phillips, Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru ar y pryd, yn sgil yr honiadau.

Yn ôl Aelod Seneddol Gŵyr, fe wnaeth hi gysylltu â Dawn Bowden yn gynnar yn 2022, ac roedd y gweinidog, bryd hynny, “wedi mynegi ei bod hi’n hapus siarad gydag unrhyw un o’r menywod gafodd eu heffeithio”.

Ychwanegodd ei bod hi wedi rhannu manylion cyswllt y menywod.

Wnaeth Dawn Bowden ddim cwrdd â phenaethiaid Undeb Rygbi i drafod materion tan ar ôl i raglen ddogfen BBC Wales Investigates gael ei darlledu.

Dywedodd wrth raglen BBC Politics Wales nad oedd yn bosib iddi ymyrryd yn gynt oherwydd bod angen “manylion eu cwynion” arni i roi “sicrwydd iddi fod yr hyn oedd yn cael ei ddweud yn wir”.

Fe wnaeth Tonia Antoniazzi godi pryderon am faterion o fewn Undeb Rygbi Cymru yn Nhŷ’r Cyffredin ym mis Mawrth 2021 hefyd.

Ond dywedodd Dawn Bowden nad oedd sylwadau Tonia Antoniazzi yn Nhŷ’r Cyffredin na’r pryderon gafodd eu codi ganddi mewn cyfarfodydd ac mewn llythyrau swyddogol yn ddigon iddi weithredu.

‘Ymchwiliad manwl a sydyn’

Rhaid i’r ymchwiliad fod yn “sydyn a phendant”, yn ôl Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig.

“Mae’n amlwg bod yn rai gwahaniaethau rhwng y gweinidog ac Aelod Seneddol Gŵyr ynghylch yr hyn ddigwyddodd a phryd, ac mae pobol yng Nghymru’n haeddu gwybod y gwir,” meddai.

“Rydyn ni’n gobeithio y bydd yr ymchwiliad yn un manwl, ond na fydd yn rhygnu ymlaen heb ganlyniadau eglur.

“Bydd pawb sydd wedi teimlo effeithiau’r digwyddiadau hyn eisiau i’r ymchwiliad ddod i ben yn sydyn a phendant.”

Cyhuddo Undeb Rygbi Cymru o ‘ddiwylliant gwenwynig’ o rywiaeth gan gyn-weithwyr

Dywed un o gyn-chwaraewyr rhyngwladol Cymru, sydd bellach yn Aelod Seneddol, fod yr honiadau “ar yr un lefel” â sgandal hiliaeth criced Swydd Efrog

‘Dylai Llywodraeth Cymru fod wedi gwneud mwy gyda’r honiadau am Undeb Rygbi Cymru’

Daw sylwadau Heledd Fychan yn dilyn sesiwn graffu ar Lywodraeth Cymru yn y Senedd heddiw (dydd Iau, Chwefror 2)