Mae gwleidyddion wedi croesawu penderfyniad Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru i gamu o’r neilltu ar ôl honiadau o ymddygiad hiliol, rhywiaethol a homoffobig yn y corff.

Roedd Steve Phillips wedi gwrthod ymddiswyddo i ddechrau, wedi i ymchwiliad gan y BBC glywed honiadau am “ddiwylliant gwenwynig” o fewn y sefydliad.

Mae Nigel Walker, Cyfarwyddwr Perfformiad yr Undeb, wedi cael ei benodi’n Brif Weithredwr dros dro.

Yn ystod rhaglen ddogfen y BBC, dywedodd Charlotte Wathan, cyn-bennaeth rygbi merched Cymru, ei bod hi wedi ystyried hunanladdiad ar ôl i gydweithiwr gwrywaidd ddweud ei fod am ei “threisio” o flaen eraill mewn swyddfa.

Daeth i’r amlwg hefyd fod Amanda Blanc, cadeirydd Bwrdd Rygbi Proffesiynol Cymru rhwng 2019 a 2021, wedi rhybuddio Undeb Rygbi Cymru bod problem yn bodoli, ond nad oedd camau wedi’u cymryd i fynd i’r afael â’r pryderon hyn.

‘Dinistrio enw da’

Does yna ddim amheuaeth bod yr honiadau “ofnadwy a sylweddol” hyn wedi dinistrio enw da Undeb Rygbi Cymru, yn ôl arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig.

“Gyda newid mewn arweinyddiaeth, dw i’n gobeithio y gall Undeb Rygbi Cymru adennill ymddiriedaeth pobol Cymru, y gellir adlewyrchu ar ymddygiad y sefydliad, ac y gall y corff ddechrau adfer eu delwedd,” meddai Andrew RT Davies.

Swydd gyntaf Nigel Walker ydy cynnig “cadarnhad hanfodol” i fenywod a merched eu bod nhw’n cymryd yr honiadau o ddifrif, ychwanega Tom Giffard, llefarydd chwaraeon y blaid.

“Dylid gweithredu er mwyn sicrhau hygrededd y gamp a’i chorff llywodraethu.

“Ni ddylid cael lle mewn rygbi i fisogynistiaeth godi ei ben hyll.”

‘Anghynaladwy’

Roedd sefyllfa Steve Phillips o fewn yr undeb yn “anghynaladwy”, meddai Heledd Fychan, llefarydd diwylliant a materion rhyngwladol Plaid Cymru, wrth groesawu ei ymddiswyddiad.

“Dyma’r cam cywir i’w gymryd ar ôl methiant Undeb Rygbi Cymru hyd yma i ymdrin â honiadau difrifol iawn o misogynistiaeth a rhywiaeth oedd yn ymddangos yn hysbys iddo ef ac eraill,” meddai.

“Rhaid i benodiad Nigel Walker fel Prif Weithredwr dros dro fod yn arwydd o ddechrau ac nid diwedd y newidiadau strwythurol a diwylliannol sylweddol sydd eu hangen yn Undeb Rygbi Cymru.

“Dylai Llywodraeth Cymru ystyried o ddifrif a yw’n briodol i Undeb Rygbi Cymru dderbyn rhagor o arian cyhoeddus hyd nes y gwneir y newidiadau hyn.

“Mae angen sicrwydd arnom fod menywod yn ddiogel rhag misogyny erchyll mewn rygbi, yn ogystal ag yn ehangach yn ein cymdeithas.”

‘Amser i rywun arall arwain’

Roedd Steve Phillips yn Brif Weithredwr ar yr undeb ers 2020, ac ni chafodd unrhyw honiadau eu gwneud yn ei erbyn ar y rhaglen.

Mewn datganiad, dywedodd bod buddiannau rygbi Cymru wastad wedi bod “wrth wraidd pob gweithred a meddwl” ganddo.

“Ond dw i wedi dod i’r casgliad ei bod hi’n bryd i rywun arall arwain y ffordd nawr,” meddai.

“Dw i ar record yn barod yn dweud faint mae’n ddrwg gen i am y teimladau a’r emosiynau sydd wedi cael eu cyfleu gan gyn-aelodau o staff.”

‘Argyfwng’

Does yna ddim amheuaeth bod rygbi Cymru yn “wynebu argyfwng dirfodol”, yn ôl Nigel Walker.

“Mae hyn wedi’n deffro ni.

“Efallai ei bod hi’n alwad roedd ei hangen ers tro.

“Y cam cyntaf tuag at unrhyw adferiad yw cyfaddef bod problem.

“Rhaid i ni wrando’n astud ar yr hyn mae pobol o’r tu allan i’r sefydliad yn ei ddweud wrthym ni.

“Rydyn ni’n poeni ac wedi ymrwymo i sicrhau cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, ac rydyn ni’n gweithio’n galed yma gydag adnoddau a buddsoddiad ymrwymedig.

“Ond rydyn ni angen gwneud yn well.

“Rydyn ni angen gwneud yn llawer gwell, ac mi fyddwn ni.”

Mae gweithgor annibynnol wedi cael ei sefydlu gan Ieuan Evans, cadeirydd Undeb Rygbi Cymru, i edrych ar y “diwylliant a’r ymddygiad” o fewn y sefydliad.

Galw ar Brif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru i gamu o’r neilltu tros honiadau ynghylch diwylliant y sefydliad

Mae Steve Phillips dan bwysau yn sgil yr honiadau gan nifer o unigolion