Mae Plaid Cymru ymhlith y rhai sy’n galw ar Brif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru i gamu o’r neilltu tros honiadau o sylwadau hiliol a rhywiaethol.
Mae Heledd Fychan, llefarydd chwaraeon y Blaid, ymhlith y rhai sydd wedi bod yn feirniadol o’r sefydliad tros honiadau “difrifol tu hwnt” o ragfarn ar sail rhyw a rhywioldeb, a hiliaeth.
Yn dilyn ymchwiliad gan y BBC, mae honiadau wedi dod i’r amlwg fod diwylliant gwenwynig o fewn Undeb Rygbi Cymru, gyda Charlotte Wathan, cyn-bennaeth rygbi merched Cymru, yn dweud ei bod hi wedi ystyried hunanladdiad ar ôl i gydweithiwr gwrywaidd dweud ei fod am ei “threisio” o flaen eraill mewn swyddfa.
Daeth i’r amlwg hefyd fod Amanda Blanc, cadeirydd bwrdd rygbi proffesiynol Cymru rhwng 2019 a 2021, wedi rhybuddio Undeb Rygbi Cymru bod problem yn bodoli, ond nad oedd camau wedi’u cymryd i fynd i’r afael â’r pryderon hyn.
Mae Steve Phillips yn Brif Weithredwr ers 2020.
‘Honiadau gwarthus’
“Mae’r honiadau gwarthus am rywiaeth a misogyny sydd wedi dod i’r golwg yn codi cwestiynau difrifol i Undeb Rygbi Cymru,” meddai Heledd Fychan.
“Mae eu methiant truenus i gydnabod difrifoldeb yr honiadau hyn yn dangos y bu, a bod problem parhaol, yn niffyg arweinyddiaeth o fewn yr Undeb.
“Fel Prif Swyddog Gweithredol, mae Steve Phillips wedi bod mewn sefyllfa i ddelio â’r materion hyn a fydd wedi bod yn hysbys iddo ers peth amser, ond mae wedi cymryd rhaglen deledu i gael Undeb Rygbi Cymru i fynd i’r afael â’r materion hyn yn gyhoeddus.
“O ganlyniad, dylai’r Prif Swyddog Gweithredol presennol ymddiswyddo, a dylid dod ag arweinyddiaeth newydd i mewn i sicrhau’r newidiadau sydd wir eu hangen.
“Hyd nes yr ymdrinnir â’r materion a bod newid diwylliant, dylai Llywodraeth Cymru ystyried a yw’n briodol i URC dderbyn unrhyw arian cyhoeddus pellach.
“Yn sicr, allwn ni ddim annog menywod i amgylchedd lle maen nhw’n wynebu’r math yma o misogyny.”