Mae’r Cymro Sorba Thomas wedi ymuno â Chlwb Pêl-droed Blackburn ar fenthyg tan ddiwedd y tymor.

Mae’r chwaraewr 24 oed wedi chwarae 25 o weithiau i Huddersfield y tymor hwn.

Mae e wedi sgorio 11 o goliau mewn 169 o gemau clwb yn ystod ei yrfa, ac roedd e’n aelod o garfan Cymru yng Nghwpan y Byd 2022 yn Qatar.

Yn y cyfamser, mae Michael Obafemi, yr ymosodwr 22 oed, ar fin ymuno â Burnley o Abertawe.

Bydd yn symud ar fenthyg yn y lle cyntaf, cyn ymuno’n barhaol ar ddiwedd y tymor, ac mae disgwyl i’r clwb yng ngogledd-orllewin Lloegr dalu o leiaf £3m amdano.

Mae Burnley wedi bod yn cwrso’r chwaraewr ers cryn amser, ac mae lle i gredu bod yr Elyrch wedi gwrthod sawl cynnig amdano yn ystod yr haf ar ôl talu £1m i’w ddenu atyn nhw fis Awst 2021.

Mae disgwyl i’r Elyrch orfod talu swm o’r ffi maen nhw’n ei dderbyn i Southampton, ei glwb blaenorol.

Mae e wedi sgorio 15 o goliau mewn 52 o gemau i Abertawe, ond dim ond tair gwaith mae e wedi rhwydo y tymor hwn mewn 19 o gemau, a dydy e ddim wedi chwarae ers mis Tachwedd.