Unwaith eto, mae Caerdydd yn chwilio am reolwr neu hyfforddwr newydd ar ôl i Mark Hudson adael y clwb. Dyma fydd degfed hyfforddwr yr Adar Gleision mewn deg mlynedd, a gyda’r clwb yn ymladd yn erbyn y gwymp, fe fydd y penodiad yma yn hollbwysig.

I fi, mae tri pheth mae angen i’r clwb, a’r hyfforddwr/rheolwr newydd, fod neu eu gwneud i sicrhau bod Caerdydd yn aros yn y Bencampwriaeth.

Hyfforddwr Profiadol

O ran y clwb, mae angen iddyn nhw benodi hyfforddwr neu reolwr sydd â phrofiad o arwain clybiau i fyny o waelod y tabl.

Os ydyn ni’n edrych ar y ffefrynnau am y swydd, mae yna dri dyn ifanc ar y rhestr – Sabri Lamouchi, Valerien Ismael a Liam Manning. Mae’r tri â phrofiad o hyfforddi yng nghynghreiriau Lloegr, Lamouchi gyda Nottingham Forest, Ismael gyda West Brom a Manning gydag MK Dons. Serch hynny, does ‘run o’r tri wedi bod mewn sefyllfa lle maen nhw’n brwydro yn erbyn y gwymp, a gall y pwysau o gadw Caerdydd yn y Bencampwriaeth fod yn ormod o her i berson ifanc.

Os ydyn ni’n edrych ar yr enwau eraill ar y rhestr o ffefrynnau, mae ganddyn nhw lot mwy o brofiad o gadw tîm i fyny – Sam Allardyce, Neil Warnock a Dean Smith. Dyma ddynion sydd â record hir o achub timau. Ond, fyddai’r hyfforddwyr yma ddim yn chwarae steil o bêl-droed deniadol.

I gefnogwyr Caerdydd, efallai y bydd rhaid iddo fo fod yn fater o “short term pain for long term gain“.

Gwella’r ymosod

Bydd rhaid i’r person sy’n dod mewn i’r clwb, beth bynnag yw eu steil o chwarae, wella’r ymosod. Ar ôl chwarae 28 gêm, mae’r Adar Gleision wedi sgorio 21 gôl, y nifer leiaf yn y gynghrair.

Mae gan Gaerdydd chwaraewyr talentog sy’n gallu creu cyfleoedd, yn enwedig Callum Robinson, Jaden Philogene a Sheyi Ojo, ond does neb ar ochr arall y bàs neu’r croesiad i roi’r bêl yn y rhwyd. Ar hyn o bryd, dydy Kion Etete heb sefydlu ei hun fel chwaraewr sy’n gallu sgorio deg gôl bob tymor, ac mae chwaraewyr ifainc megis Mark Harris ac Isaak Davies wedi brwydro yn erbyn anafiadau.

Mae yna ddigon o amser i Gaerdydd brynu ymosodwr newydd neu gael chwaraewr ar fenthyg, ond mae angen i bethau newid i fyny ym mlaen y cae.

Ystafell y Bwrdd Cyfarwyddwyr

O bosib, y newid mwyaf sydd ei angen yn Stadiwm Dinas Caerdydd yw’r sefyllfa yn ystafell y Bwrdd Cyfarwyddwyr.

Wrth edrych ar y tri dyn mwyaf dylanwadol yn y clwb – Vincent Tan, Mehmet Dalman a Ken Choo – does ganddyn nhw ddim digon o brofiad ym myd pêl-droed i wneud penderfyniadau pwysig, ac efallai yn fwy na hynny, mae’n ymddangos nad oes ganddyn nhw gynllun hirdymor ar gyfer y clwb. Mae angen i’r clwb benodi person sydd yn gallu rhoi cynllun yn ei le ble mae pawb yn y clwb, o’r top i’r gwaelod, yn gwybod ym mha gyfeiriad mae’r clwb yn mynd.

Cymerwn ni Brighton a Bournemouth fel enghreifftiau. Dyma glybiau oedd yn yr un cynghreiriau â Chaerdydd am nifer o flynyddoedd. Ond, trwy benodi pobol oedd yn gwybod am bêl-droed ac, yn bwysicach, â gweledigaeth o le gall y clybiau yma fod, mae’r ddau nawr wedi pasio Caerdydd ac yn serennu yn Uwch Gynghrair Lloegr.

Oes, mae gan Gaerdydd lawer i wneud tu hwnt i benodi’r dyn cywir fel yr hyfforddwr newydd. Ond, gyda’r dyn iawn, gall ffawd y clwb newid am y gorau.