Mae “unrhyw beth yn bosib” ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad, yn ôl Warren Gatland, prif hyfforddwr Cymru.

Bu’r gŵr o Seland Newydd wrth y llyw am y tro cyntaf rhwng 2007 a 2019, ac fe fydd yng ngofal Cymru yn ystod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad nesaf a Chwpan y Byd 2023 yn Ffrainc, gyda chyfle posib wedyn i aros tan ddiwedd Cwpan y Byd 2027.

Daeth hynny ar ôl i Wayne Pivac gytuno i adael ei swydd gydag Undeb Rygbi Cymru yn dilyn adolygiad o Gyfres yr Hydref, lle collodd Cymru dair o’u pedair gêm, gan gynnwys yn erbyn Georgia.

Mae Cymru bellach yn nawfed ar restr detholion y byd.

Roedd Warren Gatland yn brif hyfforddwr am ddeuddeg mlynedd, a llwyddodd i ennill y Gamp Lawn yn 2008, 2012 a 2019.

‘Dim ergyd rydd yn y Chwe Gwlad’

“Mae yna ddarlun mwy i edrych arno, ond dyw’r Chwe Gwlad byth yn ergyd rydd,” meddai Warren Gatland.

“Mae’n bwysig, ac mae wastad wedi bod yn bwysig i ni.

“Weithiau, yr hydref yw’r ergyd rydd. Dydych chi ddim yn cael ergyd rydd yn y Chwe Gwlad.

“Mae’n gystadleuaeth rydych chi eisiau ei hennill.

“Mae Iwerddon gartref yn gêm anodd, ond mae’n gêm wych i ni ac mae’n rywbeth y gallwn ni edrych ymlaen ati.

“Doedd [ennill Pencampwriaeth y Chwe Gwlad] ddim yn gredadwy bymtheg mlynedd yn ôl, felly mae unrhyw beth yn bosib.

“Rwy’n hynod o gystadleuol, a byddaf yn gwneud beth bynnag sydd ei angen i gael y tîm hwn i gystadlu â’r timau gorau yn y byd.

“Fe fydd hynny’n cymryd peth amser, ond gallaf warantu y byddwn yn gweithio’n hynod o galed. Rwy’n bositif y byddwn ni’n cystadlu yn arbennig o dda yn y Chwe Gwlad.”

Gyda Gatland mae gobaith

Alun Rhys Chivers

Yn debyg i’r cyfnod pan gafodd Warren Gatland ei benodi’r tro cyntaf, mae rygbi yng Nghymru wedi cyrraedd isafbwynt eto