Sabri Lamouchi yw rheolwr newydd tîm pêl-droed Caerdydd, ac mae e wedi penodi’r cyn-chwaraewr Sol Bamba yn is-reolwr.

Bu’r ddau’n cydweithio gyda thîm hyfforddi’r Côte d’Ivoire.

Bydd Dean Whitehead, Tom Ramasut a Graham Stack yn aros gyda’r clwb.

Dywed Vincent Tan, perchennog y clwb, fod penodiad Lamouchi yn dod ar ôl “dwys ystyried” y sefyllfa a’r “hyn sydd orau i’r clwb”.

Gyrfa

Yn enedigol o Lyon yn Ffrainc, dechreuodd Sabri Lamouchi ei yrfa fel chwaraewr canol cae gyda chlwb Alès cyn ennill Ligue 1 gydag AJ Auxerre ac AS Monaco.

Aeth e wedyn i’r Eidal i chwarae gyda Parma, Inter Milan a Genoa, cyn dychwelyd i’r famwlad gyda Marseille.

Enillodd e 12 o gapiau dros ei wlad rhwng 1996 a 2001, gan sgorio un gôl.

Cafodd ei benodi’n rheolwr ar dîm cenedlaethol Côte d’Ivoire yn 2012, gan gymhwyso ar gyfer Cwpan y Byd yn 2014.

Cyrhaeddodd Stade Rennais Gynghrair Europa o dan ei reolaeth yn 2017-18, ac mae e hefyd wedi rheoli Nottingham Forest yn y Bencampwriaeth.

Symudodd Sol Bamba i Gaerdydd yn 2016, ac fe ddaeth yn un o’r chwaraewyr mwyaf poblogaidd yn y clwb, gan sgorio deg gôl mewn 118 o gemau, ac roedd yn aelod o’r garfan enillodd ddyrchafiad i Uwch Gynghrair Lloegr yn 2017-18.

Beth nesaf i’r Adar Gleision?

Siôn Misra

Golwg ar le mae Caerdydd ar hyn o bryd, o’i gymharu â lle dylen nhw fod ac yr hoffen nhw fod wrth iddyn nhw ystyried pwy fydd eu rheolwr nesaf