Mae Phil Parkinson, rheolwr tîm pêl-droed Wrecsam, wedi canmol perfformiad ei chwaraewyr wrth iddyn nhw orffen yn gyfartal 3-3 yn erbyn Sheffield United yng Nghwpan FA Lloegr ddoe (dydd Sul, Ionawr 29).
Bu’n rhaid i’r ymwelwyr, sy’n ail yn y Bencampwriaeth ac ymhlith y ffefrynnau i ennill dyrchafiad i’r Uwch Gynghrair, sgorio gôl hwyr i achub y gêm yn y bedwaredd rownd ar y Cae Ras, wrth i John Egan rwydo yn ystod yr amser a ganiateir am anafiadau.
Y Saeson oedd wedi mynd ar y blaen, wrth i Oli McBurnie benio’r bêl i’r rhwyd oddi ar gic gornel Tommy Doyle.
Sgoriodd James Jones a Tom O’Connor wedyn i roi Wrecsam ar y blaen cyn i Oliver Norwood ei gwneud hi’n 2-2 ar ôl i’r Blades golli Daniel Jebbison o ganlyniad i gerdyn coch.
Rhwydodd Paul Mullin bedair munud cyn y diwedd, ac roedd hi’n edrych yn debygol fod Wrecsam am ennill y gêm o 3-2, cyn i’r capten Egan sgorio’r gôl hollbwysig.
Dyma’r tro cyntaf iddyn nhw chwarae yn y bedwaredd rownd ers 1997, ac roedd y cyd-berchennog Ryan Reynolds yno i wylio’r gamp.
“O ystyried y dechreuad gawson ni, yn ildio gôl a cholli dau chwaraewr, i’r tîm ailosod ein hunan cystal ag y gwnaethon ni, ro’n i’n meddwl bod hynny’n ragorol,” meddai’r rheolwr Phil Parkinson wrth y BBC am berfformiad Wrecsam.
“Gallai criw o chwaraewyr llai fod wedi cael eu curo o bedair neu bump i ddim yn fan’na.
“Roedd yn rhaid i ni ailwampio’r tîm ac roedd y ffordd wnaethon ni adfer ein pwyll yn hollol ragorol.
“Cyrhaeddon ni hanner amser ac ro’n i’n credu ar hanner amser y bydden ni’n cael yn ôl i mewn i’r gêm.
“Aethon ni â’r gêm at Sheffield United, a’u pinio nhw am gyfnodau hir.
“Yn amlwg, mae’n ergyd wirioneddol nad ydyn ni wedi croesi’r llinell, felly mae teimladau cymysg fel y gallwch chi ddychmygu.
“Ond roedd y ffordd wnaeth yr hogiau berfformio ar y llwyfan mawr yn rhagorol.”
‘Amhosib yw hoff liw Wrecsam’
Un arall sydd wedi canmol y perfformiad yw’r cyd-berchennog Ryan Reynolds.
“Pan wnes i a @RcMElhenney gael i mewn i hyn, roedd y cyfan yn teimlo mor amhosib,” meddai ar Twitter.
“Ond amhosib yw hoff liw @Wrexham_AFC.
“Roedd hynny’n un o’r pethau mwyaf cyffrous dw i ERIOED wedi’i weld.
“Diolch i bob cefnogwr Wrecsam ddaeth allan ac anelu eich calon at y cae hwnnw heno.”