Mae Ben Cabango, amddiffynnwr canol tîm pêl-droed Abertawe, yn credu y gall ei dîm fanteisio ar y seibiant cyn eu gêm nesaf.
Does gan yr Elyrch ddim gêm tan Chwefror 4, pan fyddan nhw’n herio Birmingham yn y Bencampwriaeth yn Stadiwm Swanseacom.
Bydd y seibiant yn gyfle gwerthfawr i gael digon o amser ar y cae ymarfer cyn mis Chwefror prysur, gydag 18 o gemau’n weddill yn y gynghrair.
Mae’r cyfnod ar ôl seibiant wedi bod yn llwyddiannus i dîm Russell Martin ers iddo gael ei benodi’n rheolwr, ac mae Ben Cabango yn credu y gall hynny fod yn wir am y bwlch rhwng y gemau yn erbyn QPR, oedd wedi gorffen yn gyfartal 1-1, a honno yn erbyn Birmingham.
Toriad ar gyfer gemau rhyngwladol yw’r rheswm am fwlch rhwng gemau fel arfer, ond bydd y garfan i gyd ar gael i ymarfer gan nad oes gemau rhyngwladol i’w chwarae yn y cyfnod hwn.
“Pan ydyn ni’n cael amser i ymarfer, rydyn ni fel arfer yn gwneud yn dda,” meddai Ben Cabango.
“Rydyn ni’n cael amser i weithio ar y manylion bach sydd wedi bod ar goll gyda ni yn y gemau, a chael rhain yn iawn.
“Felly dw i’n teimlo bod pythefnos i ffwrdd yn mynd i fod yn dda i ni fel tîm, a chael mynd dros bethau sydd angen i ni eu gwella a gobeithio y byddwn ni’n dod i ffwrdd o’r bythefnos yma’n gryfach.
“Mae’r wythnosau diwethaf wedi bod yn anodd, yn enwedig gyda’r gemau cwpan yn erbyn Bristol City, felly rydyn ni’n edrych ymlaen i’r seibiant nawr felly gallwn ni ymadfer a mynd yn dda am weddill y tymor.
“Mae gyda ni nodau uchel yn y garfan oherwydd rydyn ni’n gwybod beth rydyn ni’n gallu’i wneud, mae jyst angen i ni fod yn fwy cyson gyda hynny a pherfformio.”