Mae Calon Tysul, pwll nofio cymunedol yn Llandysul, wedi lansio prosiect cyffrous ac arloesol er mwyn gwella sgiliau Cymraeg ar ochr pyllau nofio ledled Cymru.
Fe fydd staff sydd yn gweithio yn y sector dysgu nofio yn gallu mynychu amrywiaeth o gyrsiau ar-lein ac wyneb i wyneb yn fuan i wella eu sgiliau ieithyddol.
Diolch i gymorth grantiau gan Cynnal y Cardi a Chyngor Sir Ceredigion, mae Calon Tysul wrthi’n creu cyrsiau peilot fydd yn helpu athrawon nofio sydd am godi ychydig o hyder yn y Gymraeg, neu sydd eisiau gwybod sut i ddysgu gwersi nofio yn effeithiol yn ddwyieithog.
“Rydyn ni wrthi’n creu adnoddau dysgu ar gyfer gwersi ‘micro’ ar blatfformau megis TikTok a Snapchat,” meddai Iestyn ap Dafydd, ymgynghorydd ieithyddol y prosiect.
“Bydd y rhain ar gyfer un rhywun sydd eisiau gallu dysgu ambell i air neu derm Cymraeg ar gyfer dysgu nofio.
“Hefyd, mae cwrs peilot preswyl yn digwydd ym mis Mawrth yn Llandysul ac mae hyn ar gyfer pobl sy’n medru ar yr iaith eisoes ond sydd eisiau gwella hyder i ddefnyddio eu Cymraeg wrth ddysgu nofio i blant.
“Gallai’r cwrs hefyd fod yn ddefnyddiol i athrawon cynradd cyfrwng Cymraeg a hoffai ddod yn fwy cyfarwydd â therminoleg nofio Cymraeg.”
Mae’r prosiect hwn wedi’i gyllido trwy raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, sy’n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.
Y gobaith
Mae nofio’n allweddol bwysig yn natblygiad plant, ond dydy nifer o blant dal ddim yn gallu nofio’n iawn.
Trwy gynyddu gwersi nofio Cymraeg, y gobaith yw cynyddu nifer y nofwyr ifainc, ac mae angen lledaenu’r gair am y gwaith, yn ôl rheolwr y prosiect.
“Mae nofio yn sgil bywyd,” meddai Matt Adams wrth golwg360. “Mae’n hollbwysig.
“Ar hyn o bryd mae llai na hanner o blant yn gadael Blwyddyn 6 yn gallu nofio 25 metr.
“Mae hynny’n rywbeth rydym yn gobeithio’i wella.
“Hefyd, does yna fawr o gyfleoedd i wneud chwaraeon neu weithgareddau tu fa’s i’r ysgol trwy gyfrwng y Gymraeg, felly os mae unrhyw un yn gallu helpu ni i gefnogi’r math yma o waith, bydden ni’n werthfawrogol iawn.”
Gofynion y cwrs
Mae’r cwrs hwn yn addas ar gyfer unrhyw un sydd wedi cael addysg Gymraeg ac sydd eisiau gloywi eu hiaith hefyd.
Y Gymraeg fydd iaith y cwrs, ac mae’n canolbwyntio ar gael hwyl, a defnyddio a gwella sgiliau yn yr iaith.
“Mae llwyth o bobol yn mynd trwy ysgol yn y Gymraeg, ysgol gynradd neu ysgol uwchradd neu ysgol yn ddwyieithog, felly byddwn yn meddwl bod rhywun sydd wedi gwneud eu haddysg nhw yn y Gymraeg yn hen ddigon da i fynychu’r cwrs, neu rywun sydd wedi bod yn dysgu’r iaith am gyfnod,” meddai Matt Adams wrth golwg360.
“Dydyn ni ddim yn chwilio am rywun sy’n hollol hyderus a’u prif iaith yw’r Gymraeg o gwbl.
“Os maen nhw’n rywun sy’n fodlon dysgu ac yn fodlon taflu eu hunain i mewn i bethau heb boeni gormod am wneud camgymeriadau, byddai’r cwrs yn addas ar eu cyfer nhw.
“Os maen nhw’n rywun sydd efo lefel isel o Gymraeg, yn amlwg mae’n gallu bod yn anodd.
“Beth rydym ni’n trio’i ail-greu yw sefyllfa ddwys, a beth rydym ni yn meddwl sy’n gwrs dwys lle mae pawb o’ch cwmpas chi’n siarad Cymraeg.
“Mae hynny yn codi lefel y person sy’n teimlo’n ddihyder.
“Rydym am greu awyrgylch lle mae pawb yn teimlo’n gyffyrddus.
“Dydyn ni ddim am feirniadu neb tra eu bod nhw ar y cwrs o gwbl.
“Os mae rhywun yn ansicr am ddod ar y cwrs, bydden ni’n fwy na hapus i siarad gyda nhw o flaen llaw i weld os mae’r cwrs yn addas iddyn nhw.”
Plant uniaith Gymraeg
I blant sy’n siarad Cymraeg fel iaith gyntaf neu fel unig iaith, yn aml yn ifanc iawn ac yn dechrau gwersi nofio, dydyn nhw ddim yn medru Saesneg ac am y rheswm yma mae gwersi trwy gyfrwng y Gymraeg yn hollbwysig.
“Mae miloedd o deuluoedd ar draws Cymru yn defnyddio’r Gymraeg fel eu prif iaith gartref,” meddai Matt Adams wedyn.
“Y teimlad yw, gan fod llawer o blant yn dechrau ar y daith yn eithaf ifanc, llawer o blant yn dod atom ni yn y pwll yn Llandysul yn ddwy, tair, pedair oed pam maen nhw’n dechrau nofio yn y pwll gyda ni, gan bo nhw ddim gyda phrofiad mawr o siarad Saesneg oherwydd maen nhw’n siarad Cymraeg gartref, yn yr ysgol ac yn y cylch meithrin, mae’r plant hyn yn gallu bod ar ei hôl hi oherwydd dydyn nhw ddim o bosib yn deall yr athro nofio os nad yw’r athro nofio yn medru’r Gymraeg.
“Maen nhw dan anfantais, a dweud y gwir, oherwydd dychmygwch blentyn pedair oed yn trio deall rhywun yn siarad yn yr iaith sydd ddim yn gyfarwydd iddyn nhw.
“Maen nhw mewn pwll dŵr sy’n gallu peri ofn i ddechrau, felly rydyn ni’n meddwl ei fod yn hollbwysig bod gwersi ar gael yn y Gymraeg.”
Effaith gwersi nofio ar blant
Mae effaith gwersi nofio ar blant yn destun astudiaeth gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.
“Bydd yn ddiddorol iawn clywed beth yw’r canlyniadau neu’r casgliadau mae’r astudiaeth yma’n dod ato,” meddai Matt Adams wedyn.
“Mae hyn newydd ddechrau, felly dydyn ni ddim am gael data am hynny am sbel eto.
“Maen nhw wrthi’n trefnu cyfarfodydd a chyfweliadau gyda’r teuluoedd i weld beth yw’r pwysigrwydd o’u hochr nhw.”
Llandysul yn un o gadarnleoedd y Gymraeg
Mae canran y bobol sy’n siarad Cymraeg yn Llandysul yn uchel gyda’r rhan fwyaf o blant yn derbyn addysg Gymraeg ac eraill addysg ddwyieithog felly mae yna angen am wersi nofio Cymraeg.
“Rwy’n meddwl bod fi’n iawn i ddweud bod rhyw 57% o bobol yn Llandysul yn siarad Cymraeg,” meddai Matt Adams.
“Dwi ddim yn sicr beth yw’r canran o ran plant ac ati, ond yn amlwg mae hynny’n un o gadarnleoedd y Gymraeg ar draws Cymru.
“Mae’r Gymraeg yn gryf yma.
“Mae Ysgol Bro Teifi yn ysgol Gymraeg, felly mae plant o ddwy oed hyd at 18 neu 19 yn cael eu haddysg drwy’r Gymraeg.
“Mae rhai ym Mlwyddyn 7 yn dewis mynd draw i’r ysgol ddwyieithog yn Ysgol Emlyn, ond fel arall mae pob person ifanc yn mynd drwy addysg yn y Gymraeg yn Llandysul a’r pentrefi cyfagos, felly mae’n gryf.
“Mae’r pwll wedi bod yn rhedeg eu gwersi nofio gyda’r Gymraeg yn brif iaith ers rhyw bum mlynedd.
“Cyn hynny, roedd e bach mwy ad hoc.
“Roedd o fwy fel, efallai bydd gwers yn Gymraeg, efallai bydd gwers yn Saesneg, ond y teimlad ar y pryd oedd [mai] Cymraeg yw iaith eu haddysg a dyna rydym ni’n gallu cyflawni fan hyn.
“Mae’n siwtio’r pentref.
“Rwy’n cael llawer o bobol yn sôn am ba mor dda yw e fod y gwersi yn y Gymraeg.”
Digon o hyfforddwyr nofio sy’n medru’r Gymraeg yn Llandysul
Oherwydd y system addysg Gymraeg yn Llandysul, mae digonedd o siaradwyr Cymraeg yn ddysgwyr nofio ifanc, gyda rhai yn fwy hyderus na’i gilydd yn yr iaith.
“Gan fod pawb yn Llandysul wedi cael ei haddysg yn Gymraeg hyd at ysgol uwchradd neu weithiau ysgol gynradd yn unig, mae gyda ni staff ar hyn o bryd sy’n siarad Cymraeg fel ail iaith,” meddai Matt Adams.
“Ond rydyn ni yn teimlo bod y Gymraeg sydd gyda nhw, hyd yn oed os maen nhw dim ond wedi cael addysg yn y Gymraeg hyd at flwyddyn saith, wyth neu naw, yn hen ddigon da felly rydyn ni’n ceisio magu’r hyder gyda nhw.
“Os nad ydyn nhw’n hollol sicr, rydym yn ceisio helpu nhw a cheisio rhoi’r gefnogaeth iddyn nhw.
“Fel arall, mae llwyth o’n gweithwyr ni’n hollol hyderus yn y Gymraeg oherwydd dyna’u prif iaith nhw yn y cartref ac yn yr ysgol.
“Yn y sector dysgu nofio, mae llwyth o athrawon yn tueddu bod yn bobol eithaf ifanc, efallai newydd adael yr ysgol neu yn yr ysgol, felly mae mantais gyda ni fan hyn bod yr ysgol leol yn ysgol cyfrwng Cymraeg, felly dydyn ni ddim yn cael llawer o drafferth ffeindio staff sydd yn siarad Cymraeg.”
Diffyg Cymraeg yn y diwydiant mewn rhai ardaloedd
Mewn rhai ardaloedd yng Nghymru, serch hynny, mae prinder athrawon a hyfforddwyr sy’n medru’r Gymraeg er bod yr angen yna.
Er hyn, mae camau yn cael eu cymryd i sicrhau bod gwersi nofio yn cael eu darparu’n Gymraeg.
“Mae cynllunydd iaith a mesur iaith yn sicrhau bod mynediad at wersi Cymraeg i gael gan blant,” meddai Matt Adams.
“Mae llawer o byllau nofio dan ofal Cyngor Sir, awdurdodau lleol neu ymddiriedolaethau.
“Mae dyletswydd arnyn nhw i ddarparu gwersi yn y Gymraeg, ond ar hyn o bryd mae diffyg yn y gweithle.
“Does dim llawer o athrawon nofio i gael, ac mae’r sefyllfa yn waeth byth pan rydych mewn ardal sydd ddim mor gryf yn y Gymraeg i ddod o hyd i athro nofio sy’n medru’r Gymraeg.
“Mae’n sefyllfa anodd mewn rhai ardaloedd yng Nghymru, felly rydyn ni’n meddwl bo ni mewn sefyllfa i allu helpu hynna.
“Dyna pam ein bod wedi rhoi’r cwrs mewn lle, oherwydd rydym yn meddwl hyd yn oed yn yr ardaloedd llai cryf yn Gymraeg mae wastad ysgol uwchradd o fewn cyrraedd y pwll rhywle, ac rydym yn meddwl gyda phartneriaeth o’r ysgolion felly dyna’r ffordd o ffeindio athrawon nofio ar gyfer y dyfodol.”