Mae Clwb Criced Morgannwg wedi cyhoeddi na fydd criced sirol yn y gogledd unwaith eto eleni.
Doedd lleoliadau ambell gêm ddim wedi’u cadarnhau tan heddiw (dydd Mawrth, Ionawr 24), ond mae’r clwb bellach yn dweud y bydd dwy gêm 50 pelawd yn cael eu cynnal ar gae’r Gnoll yng Nghastell-nedd, yn erbyn Durham (Awst 8) a Swydd Warwick (Awst 10), a gêm Bencampwriaeth yn erbyn Swydd Gaerlŷr ym mhencadlys y sir yng Nghaerdydd rhwng Gorffennaf 10-13.
Doedd hi ddim yn bosib cynnal gemau ar gaeau allanol yn ystod y pandemig Covid-19, gan gynnwys y cae ar lan y môr yn y gogledd, ac mae hi’n debygol na fydd Morgannwg yn gallu dychwelyd i San Helen yn Abertawe eto o ganlyniad i gyflwr y cae yno.
Cafodd dwy gêm 50 pelawd eu cynnal ar gae’r Gnoll yng Nghastell-nedd, a dyna fydd y drefn eto eleni.
Ond fydd hi ddim yn bosib dychwelyd i’r gogledd eto, o ganlyniad i bryderon ariannol a thân mawr yng Nghlwb Criced Bae Colwyn.
“Yn anffodus, dydyn ni’n dal ddim yn gallu cynnal gêm yng ngogledd Cymru y tymor hwn,” meddai Dan Cherry, Pennaeth Gweithrediadau Clwb Criced Morgannwg.
“Mae yna heriau logisteg ac ariannol o hyd o chwarae yng Nghlwb Criced Bae Colwyn, a materion gweithredol pellach gafodd eu hachosi gan dân dorrodd allan y llynedd oedd wedi difrodi adeiladau yn y lleoliad.
“O ganlyniad, cytunodd Morgannwg a Chlwb Criced Bae Colwyn na fyddai modd cynnal criced dosbarth cyntaf yn y cae eleni.”
Ond dywed Morgannwg eu bod nhw wedi ymrwymo o hyd i gynnal criced yn y gogledd, a bod trafodaethau ar y gweill i “archwilio ein holl opsiynau” yn y gobaith o ddychwelyd yn 2024.
Ymateb y cynghorau
“Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn parhau i gydweithio â’r trefnwyr i weld digwyddiadau allweddol yn dychwelyd i’r ardal yn dilyn y pandemig,” meddai’r Cynghorydd Aaron Wynne, yr Aelod tros Ddiwylliant a Hamdden.
“Yn drist iawn, fyddwn ni ddim yn medru croesawu Gŵyl Griced Morgannwg i ogledd Cymru yn 2023, ond rydym yn cydweithio i’w dychwelyd i’r ardal yn 2024.”
Ond mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi croesawu’r newyddion y bydd gemau’n cael eu cynnal ar y Gnoll unwaith eto.
“Mae cael criced dosbarth cyntaf yn cael ei chwarae unwaith eto yng nghanol Castell-nedd ar y Gnoll wir yn rhoi Castell-nedd ar y map,” meddai Steve Hunt, arweinydd y Cyngor.
“Dw i eisiau llongyfarch y tîm yng Nghlwb Criced Castell-nedd am eu llwyddiant wrth ddarparu cyfleusterau dosbarth cyntaf a ffactorau eraill sydd wedi arwain Morgannwg i ddewis chwarae gemau yng Nghastell-nedd.
“Wnaethon ni fwynhau gwylio Morgannwg yn herio Hampshire a Swydd Gaerhirfryn ar y Gnoll haf diwethaf, a bydd y gemau ychwanegol hyn sydd newydd gael eu cyhoeddi yng Nghastell-nedd yn dod â thorfeydd mawr i ganol Castell-nedd unwaith eto, lle mae ein Canolfan Hamdden Castell-nedd newydd ar fin agor.”