Mae golwg360 yn deall bod trafodaethau ar y gweill i gynnal gemau criced Morgannwg ar gaeau allanol yng Nghastell-nedd a Llandrillo-yn-Rhos yn ystod tymor 2023.

Daw hyn wrth i drefn y gemau sirol ar gyfer y flwyddyn nesaf gael eu cyhoeddi heddiw.

Doedd hi ddim yn bosib cynnal gemau ar gaeau allanol yn ystod y pandemig Covid-19, gan gynnwys y cae ar lan y môr yn y gogledd, ac mae hi’n debygol na fydd Morgannwg yn gallu dychwelyd i San Helen eto o ganlyniad i gyflwr y cae yno.

Ond cafodd dwy gêm 50 pelawd eu cynnal ar gae’r Gnoll yng Nghastell-nedd ac mae golwg360 wedi cael arddeall fod yna fwriad i ddychwelyd yno eto yn 2023.

Dim rhagor o griced yn San Helen?

“Mae’n hawdd rhedeg rhywbeth os oes gyda chi gefnogaeth i’w wneud e, a dw i’n ddiolchgar iawn i bawb yn yr ystafell y prynhawn yma sydd wedi fy nghefnogi i a fy mhwyllgor i wneud yr hyn rydyn ni wedi’i gyflawni,” meddai John Williams, cadeirydd Orielwyr San Helen, wrth annerch y rhai oedd wedi ymgynnull ar gyfer cinio diwedd tymor blynyddol y gymdeithas.

“Rydyn ni wedi rhoi dros £500,000 i Forgannwg dros y pumdeg mlynedd. Roedd gyda ni’r weledigaeth o gymryd Fred’s Bar drosodd yn 1985, ac aeth pob ceiniog o hwnnw yn ôl i Forgannwg a’u chwaraewyr mewn rhyw ffordd neu’i gilydd. Roedden ni’n arfer talu arian tuag at chwaraewyr ifainc Morgannwg iddyn nhw gael mynd i ddatblygu eu gêm dramor, ac yn talu tuag at eu costau hedfan.

“Fe wnaethon ni dalu £10,000 tuag at adnewyddu’r ystafell newid yn San Helen. Fe wnaethon ni dalu am orchuddion y cae… Roedden ni’n gwybod fod rhaid trwsio’r cae a dyna pam gollon ni fe yn y diwedd, ond roedden ni wedi’i drwsio fe bob tymor cyn i Forgannwg ddod yno. Roedd gyda ni ganolfan y cyfryngau oedd yn cwympo i lawr, fe wnaethon ni roi to newydd arni unwaith hefyd.

“Mae gyda ni dair menyw yma, y dair menyw olaf i redeg y bar te – Rachel, oedd wedi gweithio gyda fy ngwraig [y ddiweddar Mair] yn wreiddiol, gan wirfoddoli i’w gymryd e ymlaen gyda Cynthia a Jackie. Roedd yr holl wirfoddolwyr hyn gyda ni yn Abertawe ac all neb gymryd hynny oddi wrtha i. Ond dw i’n hapus nawr i gefnogi criced yng Nghastell-nedd ac fe wnawn ni gefnogi gymaint â gallwn ni i roi pob cymorth i Forgannwg iddyn nhw ddatblygu Academi yn y gorllewin, lle bynnag mae e’n mynd i fod. Mae e’n anodd iawn.

“Mae’n ddrwg gyda fi bo fi mor emosiynol, ond rydyn ni wedi’i wneud e. Diolch i bawb.”

Daeth ei sylwadau rai wythnosau ar ôl iddo ddatgan teimladau yr un mor gryf yn ei Adroddiad Cadeirydd yng nghylchlythyr yr Orielwyr.

“Mae’n gywilyddus ein bod ni wedi methu nodi’r achlysur arbennig hwn yn ystod ein Gŵyl Griced yn San Helen, cae oedd bob amser yn cael ei gydnabod fel ‘cartref ysbrydol Clwb Criced Morgannwg’,” meddai.

“Mae’r sefyllfa gawsom ein hunain ynddi’n hollol dorcalonnus. Mae cyfraniad yr Orielwyr dros y pum degawd i Glwb Criced Morgannwg wedi bod yn enfawr. Rydym yn falch iawn o’n cyrhaeddiad wrth gynnal yr Ŵyl Griced Gorllewin Cymru flynyddol yma yn Abertawe, ac mae’r diolch i’n criw o wirfoddolwyr sydd wedi galluogi Morgannwg i chwarae yn San Helen am gyn lleied o gost.

“Mae’n annychmygadwy beth sydd wedi gallu digwydd i’r lleoliad criced a rygbi byd-enwog hwn. Mae ei leoliad hyfryd yn edrych dros Fae Abertawe a’r Mwmbwls yn atyniad fyddai’n destun eiddigedd y rhan fwyaf o gaeau criced yn y Deyrnas Unedig. Mae’r cricedwyr enwocaf yn y byd wedi chwarae ar y cae hwn, ond eto ni fu dyhead i warchod y dreftadaeth a’r traddodiad enwog oedd yn golygu bod cryn gyfeirio at San Helen fel ‘cartref ysbrydol Clwb Criced Morgannwg’.”

Trefn gemau 2023

Bydd tymor Morgannwg yn dechrau gyda dwy gêm yng Ngerddi Sophia yng Nghaerdydd – yn erbyn Swydd Gaerloyw (Ebrill 6-9) a Durham (Ebrill 20-23).

Bydd chwe gêm Bencampwriaeth yn ystod misoedd Ebrill a Mai cyn i Forgannwg droi eu sylw at gystadleuaeth ugain pelawd y Vitality Blast rhwng diwedd Mai a dechrau Gorffennaf.

Bydd y gystadleuaeth honno’n dechrau i Forgannwg ar Fai 26, wrth iddyn nhw deithio i Swydd Gaerloyw, cyn croesawu Caint i Gaerdydd ar Fehefin 2.

Bydd tair gêm gartref ar nos Wener, dwy ar ddydd Sul a dwy ar nos Fercher, gyda’r olaf ohonyn nhw yn erbyn Surrey ar yr un noson â gêm y merched rhwng Western Storm a Nottingham Blaze wrth i’r cae yng Nghaerdydd gynnal gemau cefn-wrth-gefn am y tro cyntaf.

Bydd tair gêm Bencampwriaeth eto ym mis Gorffennaf cyn gêm baratoadol yn erbyn Sir Henffordd cyn dechrau’r gwpan 50 pelawd oddi cartref yn erbyn Swydd Gaerwrangon ar Awst 4.

Durham fydd yr ymwelwyr ar gyfer gêm gartref Morgannwg yn y gystadleuaeth honno ar Awst 8, a gêm gartref yn erbyn Swydd Northampton fydd yn cloi’r gystadleuaeth ar Awst 22.

Bydd gemau ola’r Bencampwriaeth yn cael eu cynnal ym mis Medi, yn erbyn Swydd Gaerwrangon (Medi 3-6), Swydd Efrog (Medi 10-13) a Swydd Derby (Medi 26-29).

“Rydym yn cynnal trafodaethau â’n caeau allanol i gynnal gemau yn eu caeau nhw, a byddwn yn cadarnhau’r holl gaeau cyn gynted ag y bydd y trafodaethau hyn wedi dod i ben,” meddai’r Prif Weithredwr Hugh Morris.

 

Cinio chwerwfelys Orielwyr San Helen yn 50

Alun Rhys Chivers

“Mae’n annychmygadwy beth sydd wedi gallu digwydd i’r lleoliad criced a rygbi byd-enwog hwn”