Mae Neco Williams yn dweud nad oedd ganddo fe “ddim dewis” ond gadael y cae yn y gêm rhwng Cymru a Lloegr yng Nghwpan y Byd yn Qatar.

Daw ei sylwadau ar ôl i Curtis Woodhouse, cyn-bêldroediwr sydd bellach yn baffiwr, ddweud bod y Cymro’n “bathetig” ar ôl cael ei eilyddio wedi iddo gael ei daro yn ei wyneb gan y bêl.

“Mae’r byd wedi mynd yn wallgof,” meddai Woodhouse ar Twitter nos Fawrth (Tachwedd 29) yn ystod y gêm fawr yng Ngrŵp B.

Chwaraeodd Neco Williams yn y gêm dyngedfennol rai oriau’n unig ar ôl cael gwybod am farwolaeth ei daid.

“Cymru v Lloegr yng Nghwpan y Byd ac rwyt ti’n dod i ffwrdd ar ôl cymryd pêl i’r pen!” meddai’r paffiwr oedd wedi ennill pedwar cap dros dîm dan 21 Lloegr yn ystod ei yrfa.

“Gweiddiwch arna’i gymaint ag ydych chi eisiau, ond gwallgofrwydd yw hyn.

“Pathetig.”

‘Gweld dwywaith nifer y chwaraewyr’

Yn dilyn y sylwadau, mae Neco Williams wedi ymateb heddiw (dydd Iau, Rhagfyr 1) gan egluro pam iddo adael y cae.

“Pan ydych chi’n dechrau gweld dwywaith nifer y chwaraewyr ar y cae, dw i ddim yn meddwl bod gen i ddewis,” meddai’r cefnwr.

Mae Curtis Woodhouse wedi cael ei feirniadu am ei sylwadau, ac yntau’n sylfaenydd mudiad sy’n hyrwyddo iechyd a lles.