Bydd Warren Gatland yn dychwelyd i Gymru cyn y Nadolig i olynu Wayne Pivac, cyn-brif hyfforddwr tîm rygbi Cymru.

Y gŵr o Seland Newydd, oedd wrth y llyw am y tro cyntaf rhwng 2007 a 2019, fydd yng ngofal Cymru yn ystod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad nesaf a Chwpan y Byd 2023 yn Ffrainc, gyda chyfle posib wedyn i aros tan ddiwedd Cwpan y Byd 2027.

Mae Wayne Pivac wedi cytuno i adael ei swydd gydag Undeb Rygbi Cymru ar ôl adolygiad o Gyfres yr Hydref, lle collodd Cymru dair o’u pedair gêm, gan gynnwys yn erbyn Georgia.

Buodd Warren Gatland yn brif hyfforddwr am ddeuddeg mlynedd, a llwyddodd i ennill y Gamp Lawn yn 2008, 2012 a 2019.

‘Adnabod’ ein gilydd

Wrth gyhoeddi’r newid, dywed Steve Phillips, Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru, mai hwn yw un o’r penderfyniadau anoddaf i’w wneud mewn unrhyw gamp, ond fod yr adolygiad wedi dod i ben a’u bod nhw “wedi gweithredu’n gyflym ac yn effeithiol er lles y tîm cenedlaethol”.

“Rydyn ni wedi cytuno gyda Wayne nad yw trywydd presennol Cymru fel yr hoffem ei weld ac rydyn ni’n diolch iddo’n ddiffuant am ei amser, ei frwdfrydedd, ei ddyfalbarhad a’i ymdrechion di-gwestiwn yn brif hyfforddwr dros y tair blynedd ddiwethaf.

“Gyda Warren, rydyn ni’n dod ag un o hyfforddwyr gorau’r gêm ryngwladol i’r Undeb.

“Roedd yn ddrwg gennym ei weld yn mynd pan adawodd, ond rydyn ni wrth ein boddau ei fod wedi cytuno i ddychwelyd.

“Rydyn ni’n ei adnabod yn dda ac yn bwysicaf oll, mae e’n ein hadnabod ni hefyd.

“Dydy’r penodiad ddim yn ddatrysiad sydyn, nac yn blaster dros friw, ond mae’n ran o’n cynllunio hirdymor ar gyfer y gêm yng Nghymru.”

‘Fawr ddim amser am sentiment’

Dan ofal Warren Gatland, cyrhaeddodd Cymru rowndiau cyn-derfynol dwy Gwpan y Byd, hefyd, a bu’n brif hyfforddwr i’r Llewod ar ddwy daith lwyddiannus yn ystod ei gyfnod â Chymru.

“Dw i’n edrych ymlaen yn fawr at ddychwelyd i hyfforddi Cymru,” meddai.

“Mae hwn yn gyfle i lwyddo gyda thîm talentog o chwaraewyr mewn gwlad sydd mor angerddol dros rygbi; gwlad fu mor groesawgar tuag ataf i a fy nheulu pan wnaethon ni gyrraedd yma gyntaf bymtheg mlynedd yn ôl, a thrwy’r amser y buom ni yno.

“Does yna fawr ddim amser ar gyfer sentiment; paratoi, gwerthoedd a chanlyniadau sy’n bwysig mewn chwaraeon proffesiynol.

“Bydd yna heriau newydd fel sydd bob tro gyda phrif hyfforddwr newydd, ond i fi, mae’r awyrgylch, y chwaraewyr a’u teuluoedd wastad yn dod gyntaf.

“Mae’n rhaid i ni baratoi hyd orau ein gallu yn yr amser sydd gennym ni.

“Byddwn ni’n parchu ac yn gwerthfawrogi ein gilydd, byddwn ni’n gweithio’n galed, ac os gawn ni hyn yn iawn gyda’n gilydd, bydd y perfformiadau a’r canlyniadau’n dilyn.”