Mae’r Tân Cymreig, tîm criced dinesig Caerdydd, yn chwilio am brif hyfforddwr newydd yn dilyn cadarnhad na fydd Gary Kirsten yn dychwelyd i Gymru i hyfforddi tîm y dynion y tymor nesaf.

Fe fu cyn-fatiwr rhyngwladol De Affrica wrth y llyw am ddau dymor cynta’r gystadleuaeth Can Pelen.

Mae’r Tân Cymreig yn un o wyth tîm dinesig sy’n cystadlu yng nghystadlaethau’r dynion a’r merched, gyda’r dynion yn chwarae eu holl gemau cartref yng Ngerddi Sophia yng Nghaerdydd.

Mae’r Tân Cymreig yn dweud eu bod nhw’n gyflogwr hawliau cyfartal, ac y bydd y penodiad yn seiliedig ar wiriadau DBS.

Maen nhw’n dweud eu bod nhw hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr o dramor, a’r dyddiad cau yw Rhagfyr 16.

“Hoffai pawb sydd ynghlwm wrth y Tân Cymreig fynegi eu diolch i Gary am ei gyfraniad a’i ymdrechion dros y ddwy flynedd ddiwethaf,” meddai’r Tân Cymreig mewn datganiad.

“Rydym yn edrych ymlaen at dderbyn ceisiadau ar gyfer rôl Prif Hyfforddwr y dynion gan ystod eang o ymgeiswyr.”