Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru’n dweud bod rôl y teulu brenhinol fel noddwyr “yn cael ei adolygu” yn dilyn marwolaeth Brenhines Lloegr, yn ôl y Press Association.
Roedd adroddiadau fis diwethaf y gallai Tywysoges Cymru ddod yn noddwr, ond cafodd ei wfftio gan gefnogwyr anfodlon ar y cyfryngau cymdeithasol.
Bellach, mae Noel Mooney, Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, yn dweud bod y sefyllfa “yn cael ei adolygu”.
“Rydyn ni bob amser yn edrych i weld beth yw’r peth iawn i Gymdeithas Bêl-droed Cymru ei wneud, beth yw’r peth iawn i ni fel gwlad ei wneud,” meddai.
“Ar hyn o bryd, rydyn ni’n edrych ar ddichonolrwydd yr holl beth, beth yw’r manteision i bêl-droed Cymru.
“Ar yr un pryd, dydyn ni ddim eisiau dod yn sefydliad sy’n hollti barn.
“Rydyn ni eisiau bod yn sefydliad sy’n gynhwysol i bawb.
“Rydyn ni’n sensitif iawn ynghylch y materion hyn, a dw i’n credu ei bod hi’n deg dweud ein bod ni wedi dangos llawer o barch pan fu farw’r Frenhines.
“Wrth symud ymlaen, rhaid i ni barhau i feddwl am esblygiad y Gymdeithas a byddwn ni’n cynnal trafodaethau i weld beth yw barn pobol yma.
“Yr hyn sy’n rhaid i ni ei wneud yw sicrhau nad ydyn ni’n gwneud unrhyw beth sy’n hollti barn nac yn gelyniaethu pobol.
“Rydyn ni’n eangfrydig iawn, ac rydym yn cynrychioli pob sbectrwm gwleidyddol a hanesyddol yng Nghymru, a rhaid i ni barhau i wneud hynny.
“Byddwn ni’n cymryd ein hamser yn 2023 i edrych arni’n iawn.
“Gadewch i ni fesur beth sy’n digwydd o’n cwmpas ni, gweld beth mae sefydliadau eraill yn ei wneud a beth yw’r ysfa [i gael noddwr brenhinol].”
Cefnogi Cymru – neu Loegr?
Fis diwethaf, dywedodd Richard Palmer, gohebydd brenhinol y Daily Express, fod y teulu brenhinol yn awyddus i Dywysoges Cymru olynu Brenhines Lloegr a noddi Cymdeithas Bêl-droed Cymru.
“Byddai hynny’n creu sefyllfa i’r gwrthwyneb i rygbi’r undeb, lle mae William yn noddi rygbi Cymru a Kate yn noddi’r gêm Seisnig,” meddai.
Dywedodd mai bwriad y teulu brenhinol oedd “achub cam” y Tywysog William ar ôl iddo gefnogi Lloegr tra ei fod yn Dywysog Cymru.
Cafodd ei feirniadu am fod yn dywysog ar un wlad a chefnogi gwlad arall, ar ôl dweud wrth dîm pêl-droed Lloegr yng Nghwpan y Byd fod “pawb” yn eu cefnogi wrth iddo ymweld â’r garfan yr wythnos ddiwethaf.
Yn ystod ymweliad â’r Senedd fis diwethaf, dywedodd y byddai’n cefnogi’r ddau dîm.
“Pan oeddwn i’n tyfu i fyny, wnaeth Cymru ddim cymhwyso i’r twrnament ond bydda i’n eu cefnogi nhw yr holl ffordd drwy’r broses,” meddai.