Daeth taith Gymru yng Nghwpan y Byd i ben yn gynt nag y byddai pawb wedi’i hoffi, ond yn ôl Deian ap Rhisiart, tywysydd teithiau hanesyddol yn y gogledd a dilynwr pêl-droed brwd, mae cyrraedd y llwyfan mawr wedi gwneud byd o les beth bynnag – i bêl-droed yn y wlad, ac wrth godi ymwybyddiaeth o’r genedl. Yn ôl Deian, sy’n tywys twristiaid o bedwar ban byd o amgylch safleoedd hanesyddol ledled Môn ac Eryri, mae’r ffaith fod Cymru wedi cymhwyso ar gyfer y bencampwriaeth eleni wedi gwneud ei waith fel tywysydd “lot haws”.


Mae tîm Cymru yn dod i ryw fath o newid cyfnod, Bale a Ramsey yn dod i ddiwedd eu hoes aur, er mae yna dal ddigon o betrol yn y tanc i’r ddau ohonyn nhw gario ymlaen. Daeth Cwpan y Byd ar yr adeg anghywir i lot o’r chwaraewyr, roedd yna ddiffyg gemau, doedd o ddim yn ddelfrydol i’r tîm. Wedyn, ar ben hynny, roedd y tactegau yn anghywir, fyswn i’n dweud.

Fel mae’r gystadleuaeth wedi mynd, mae hi wedi bod yn andros o rollercoaster. Ti ddim yn gwybod pwy sy’n mynd i guro pwy, ac mae hi wedi bod yn gystadleuaeth â lot o goliau. Mae wedi bod yn Gwpan y Byd da iawn.

Rydyn ni wedi cyrraedd Cwpan y Byd, dyna sy’n bwysig. Mae hynny’n seicolegol bwysig i ni fel gwlad, yn ogystal ag i dîm Cymru a thimau’r dyfodol. Rydyn ni wedi gallu cyrraedd yna, iawn, rydyn ni’n gallu gwneud o eto felly… dyna’r meddylfryd.

Dydy o ddim yn hen hanes, dydy o ddim yn 1958. Dw i’n siŵr y daw yna Bale arall fydd wedi cael ei ysbrydoli gan Bale i gyrraedd yna, a gwneud yn well. Mae o’n ysgogiad i wneud yn well, i fynd allan o’r grŵp. Mae’n bosib tynnu rhywbeth positif allan o’r profiad, a’i ddefnyddio fel cymhelliant i wneud yn well.

Does yna ddim amheuaeth y caiff lot o chwaraewyr eu hysbrydoli gan hyn. Gaethon ni Ryan Giggs yn y 90au a dechrau’r 2000au, roedd o’n anhygoel ac mae hi’n bechod na fasa fo wedi chwarae mwy i Gymru. Ond rwy ti yn cael y bobol yma, ac efallai y byddan ni’n eu cael nhw’n amlach rŵan achos ein bod ni wedi cyrraedd y llwyfan mawr.

Fedrwn ni ddim digalonni yn fan hyn. Mater o amser ydy hi tan mae yna griw arall yn dod allan o hyn. Dydyn ni ddim yn ei weld o ar y funud, ond mi wnawn ni.