Ar ddiwedd blwyddyn eu canmlwyddiant, mae’r Urdd wedi creu swydd newydd i gyrraedd a chysylltu â chymunedau amrywiol sydd wedi eu tangynrychioli yn ardal Caerdydd.

Mae Nooh Ibrahim, cyn-ddisgybl o Ysgol Fitzalan sydd yn byw yn Nhre-biwt yng Nghaerdydd, wedi’i benodi’n Swyddog Chwaraeon Cymunedol Amrywiol cyntaf y Mudiad.

Bydd y rôl newydd, sydd yn cael ei beilota gan yr Urdd, yn helpu i ymestyn cyrhaeddiad ac effaith gwaith y mudiad gan gefnogi eu nod o gyrraedd plant a phobol ifanc o bob cymuned.

Fel rhan o’r rôl newydd, bydd Nooh Ibrahim yn cynnal gweithgareddau chwaraeon dwyieithog i gefnogi sesiynau ‘Chwarae drwy’r Gymraeg’ mewn cymunedau amrywiol yng Nghaerdydd.

Bydd y rôl hefyd yn cynnig hyfforddiant arwain i blant a phobol ifanc ardal ddeheuol y brifddinas, gan gynnig gweithgareddau hygyrch yn yr iaith Gymraeg i bawb.

Ers ymuno â’r Urdd, mae Nooh Ibrahim yn cael gwersi Cymraeg dwys yn ddyddiol, ac mae ei sesiynau pêl-droed ac aml-chwaraeon wedi ennyn diddordeb mawr gan blant a phobol ifanc ardaloedd deheuol y brifddinas.

Defnyddio grym chwaraeon i dorri rhwystrau

“Rwy’n hynod o falch o gael gweithio hefo’r Urdd,” meddai Nooh Ibrahim.

“Yn y rôl yma byddaf yn gallu cynnig mwy o gyfleoedd, gan ddatblygu cynnig cymunedol o sesiynau chwaraeon a hyfforddiant arwain o fewn ardaloedd amrywiol yng Nghymru.

“Gan fy mod yn barod ym myd y campau, rwy’n ymwybodol ac wedi gweld dros fy hun bŵer chwaraeon; gall y pŵer hwn gael ei ddefnyddio i daclo a thorri lawr rhwystrau iaith a diwylliannol, gan greu cyfleoedd cyfartal i bawb.

“Ar ôl cael fy magu mewn ardal economaidd-gymdeithasol isel yng nghanol dinas Caerdydd ble roedd mynediad i chwaraeon yn brin, cefais fy nenu’n syth i’r syniad o allu gwasanaethu pobol ifanc, a byddai’n fraint gallu cynnig iddyn nhw y cyfleoedd na chefais i.

“O fewn fy rôl yn yr Urdd, byddaf yn dysgu’r iaith Gymraeg, fel y gallaf ddod â’r iaith i mewn i’r gymuned fel rhan o ‘ngwaith.

“Rwy’n gyffrous iawn i fod yn dysgu’r Gymraeg a chael dysgu mwy am fy hunaniaeth Gymraeg.”

‘Adlewyrchu Cymru newydd’

“Ar ran yr Urdd, hoffwn groesawu Nooh i’r Mudiad yn y rôl gyffrous newydd yma,” meddai Siân Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd.

“Gan ddechrau yng Nghaerdydd, bydd y Swyddog Chwaraeon Cymunedau Amrywiol yn rhan hanfodol yn ein nod i gyrraedd, cynnwys a chynnig cyfleoedd siapio-bywyd i blant a phobol ifanc o bob cefndir diwylliannol a chymdeithasol.

“Mae’r Urdd yn adlewyrchu Cymru newydd.

“Rydym ni eisiau i’r iaith Gymraeg fod yn ganolog ym mywyd pob plentyn a pherson ifanc ar hyd y wlad, gan sicrhau fod pawb yng Nghymru – boed yn siarad Cymraeg neu beidio – yn teimlo perchnogaeth ac ymdeimlad o berthyn tuag at yr iaith a’i thraddodiadau.

“Hoffwn hefyd longyfarch Nooh ar ei enwebiad yng nghategori Arwr Tawel gwobrau Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn y BBC – mae’r Urdd i gyd yn falch iawn ohonot a dymunwn y gorau i ti yn y gystadleuaeth!”