Mae pêl-droed yn “rhan o ddiwylliant” Arfon, yn ôl Siân Gwenllian, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros yr ardal.

Daw ei sylwadau ar ôl iddi hithau a Hywel Williams, yr Aelod Seneddol lleol, noddi’r gêm fawr rhwng Caernarfon a’r Drenewydd ar yr Oval ar Ragfyr 2.

Mae hi’n dweud bod “y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn heriol i gefnogwyr pêl-droed” o ganlyniad i Covid-19 a’r cyfnodau clo, a’i bod hi’n falch o weld y cefnogwyr yn cael dychwelyd pan gafodd y cyfyngiadau eu llacio.

“Mae’r elfen gymdeithasol yn ganolog i bêl-droed, ac mae presenoldeb cefnogwyr ar ochr y cae yn bwysig i’r chwaraewyr hefyd,” meddai.

“Heb sôn am y baich ariannol o golli incwm tâl mynediad.

“Mae pêl-droed yn rhan bwysig o wead cymdeithasol a diwylliannol yr ardal hon, ac mae hefyd yn rhan hollbwysig o barhad yr iaith Gymraeg.

“Mewn trefi a phentrefi, mae pêl-droed yn cael ei chwarae ar lawr gwlad drwy gyfrwng y Gymraeg.

“Mae’n bwysig ar gyfer iechyd y corff a’r meddwl, ond hefyd ar gyfer creu cymunedau hyfyw lle mae bwrlwm, a rheswm i bobol ifanc aros.

“Hoffwn ddiolch i Glwb Pêl-droed Tref Caernarfon am y gwahoddiad i noddi’r gêm.”