Mae prosiect nofio yng Nghaerdydd wedi ennill gwobr Prosiect Loteri Genedlaethol y Deyrnas Unedig y Flwyddyn ar gyfer 2022.

Cafodd prosiect y Gymdeithas Nofio i Bobol Ddu ei sefydlu gan Seren Jones o Gaerdydd, a’i nod yw annog mwy o bobol mewn cymunedau Affricanaidd, Caribïaidd ac Asiaidd i gymryd rhan mewn nofio ac addysg am ddiogelwch dŵr.

Maen nhw’n gweithio mewn partneriaeth gydweithredol gyda chymunedau, cyrff llywodraethu cenedlaethol, asiantaethau’r llywodraeth, awdurdodau achub bywydau a brandiau dyfrol yng Nghymru ac yn y Deyrnas Unedig.

Derbyniodd y prosiect eu gwobr gan Jason Mohammad, y cyflwynydd chwaraeon sy’n hanu o’r brifddinas.

Roedd y gymdeithas wedi llwyddo i drechu mwy na 1,300 o sefydliadau i gyrraedd y cam pleidleisio cyhoeddus yng Ngwobrau’r Loteri Genedlaethol eleni, sydd yn dathlu’r bobol a’r prosiectau ysbrydoledig sy’n gwneud pethau eithriadol gyda help arian y Loteri Genedlaethol.

Daeth y prosiect i’r amlwg fel enillydd y Deyrnas Unedig gyfan yn dilyn pleidlais gyhoeddus ym mis Hydref, wrth iddyn nhw gystadlu yn erbyn 16 o ymgeiswyr eraill o bob cwr o’r Deyrnas Unedig yn y rownd bleidleisio derfynol pedair wythnos o hyd.

Maen nhw nawr yn derbyn y wobr ariannol o £5,000 ynghyd â thlws eiconig Gwobrau’r Loteri Genedlaethol.

Cyfranogiad

Mae ffigyrau cyfranogiad swyddogol gan Chwaraeon Lloegr o ran cymunedau Affricanaidd, Caribïaidd ac Asiaidd yn dangos nad yw 95% o Oedolion Croenddu; 80% o Blant Croenddu; 93% o Oedolion Asiaidd; a 78% o Blant Asiaidd yn nofio yn Lloegr.

Ac yn ôl Sefydliad Iechyd y Byd (WHO), mae’r perygl o foddi yn uwch ymysg cymunedau lleiafrifoedd ethnig.

Y Gymdeithas Nofio i Bobl Ddu (BSA) yw’r sefydliad cyntaf sy’n gweithio gyda’r cymunedau hyn i hyrwyddo diogelwch dŵr, atal boddi a buddion y byd dyfrol trwy raglenni tywys ac ymgyfarwyddo â dŵr a rhaglenni eclectig eraill.

Wedi llwyddiant yn Lloegr, mae’r BSA yn diffinio’r darlun yng Nghymru ar hyn o bryd ac yn gweithio tuag at ymyriadau sydd wedi’u targedu i atal y cymunedau hyn rhag bod mewn perygl mawr o foddi neu fod mewn digwyddiadau lle bydd boddi bron â digwydd.

Gan weithio’n agos gyda phartneriaid dyfrol, diogelwch dŵr ac addysg strategol ar draws y Deyrnas Unedig, mae’r BSA wedi creu partneriaeth gref erbyn hyn gyda Chwaraeon Cymru sy’n dosbarthu arian y Loteri Genedlaethol, mewn partneriaeth gyda Nofio Cymru, i wneud nofio a chwaraeon dyfrol eraill yn fwy amrywiol ac yn fwy cynhwysol o ran ethnigrwydd.

Dyma’r tro cyntaf mae prosiect wedi canolbwyntio ar y mater hwn o fewn Cymru.

Mae’r bartneriaeth, sydd wedi’i chefnogi gan arian y Loteri Genedlaethol, yn cynnwys elfen ymgysylltu cymunedol, ynghyd â rhannu a datblygu ymchwil arloesol, a gweithredu rhaglenni cynaliadwy dan arweiniad y gymuned.

‘Arswyd’

Mae Seren Jones, cyd-sylfaenydd y BSA, yn cofio bod mewn arswyd o ddŵr fel plentyn.

Roedd ei rhieni yn benderfynol y byddai hi a’i brodyr a chwiorydd yn cael gwersi, ac aeth yn ei blaen i gystadlu ar lefel elît gyda Chlwb Nofio Dinas Caerdydd gan ennill ysgoloriaeth nofio i Brifysgol Americanaidd adran dau blaengar.

Mae hi bellach yn 28 mlwydd oed, ac yn credu mai nofio yw’r unig gamp all achub bywydau a’i bod yn borth tuag at gyfranogiad diogel mewn chwaraeon a gweithgareddau dyfrol, ac yn faes posibl ar gyfer gyrfa.

“Mae cefnogaeth y Loteri Genedlaethol wedi chwarae rhan allweddol wrth ehangu dylanwad y prosiect hwn yng Nghymru,” meddai.

“Rwyf mor falch o’r hyn rydym wedi’i gyflawni hyd yn hyn.

“Mae’n wych cael y gydnabyddiaeth hon ac mae’n ein hysbrydoli ni i barhau ac eisiau mwy.”

Alice Dearing yn y llyfrau hanes

Roedd Alice Dearing, cyd-sylfaenydd y BSA, wedi cyflawni camp hanesyddol y llynedd fel y nofwraig groenddu gyntaf erioed i gynrychioli Prydain yn y Gemau Olympaidd.

Mae hi’n 25 oed, ac o dras Ghanaiadd a Seisnig.

“Mae’r prosiect hwn yn gam enfawr tuag at gael mwy o bobl o gefndiroedd ethnig amrywiol i gymryd rhan mewn campau dyfrol a’r cyfan sydd ganddynt i’w cynnig,” meddai.

“Mae’r ffaith fod y cyhoedd wedi pleidleisio drosom ni yn gwneud ennill y wobr hon hyd yn oed mwy arbennig. Mae’n wych cael y gydnabyddiaeth hon ac mae’n ein hysbrydoli ni i barhau ac eisiau mwy.”