Mae un o bwyllgorau’r Senedd wedi cyhoeddi heddiw (dydd Iau, Rhagfyr 15) eu bod yn cefnogi’r gwaharddiad ar rasio milgwn yng Nghymru.
Daw’r argymhelliad wedi i ddeiseb i’r Senedd gan elusen Hope Rescue gasglu dros 35,000 o lofnodion, gan alw am wahardd y gamp ledled y Deyrnas Unedig.
Mae mwyafrif aelodau Pwyllgor Deisebau’r Senedd yn cefnogi gwahardd yn raddol ar rasio milgwn yng Nghymru, yn ogystal ag argymhellion i’r llywodraeth ar ddyfodol y gamp yng Nghymru.
Mae Cymru’n un o ddim ond deg gwlad yn y byd sy’n caniatáu rasio milgwn masnachol yn gyfreithlon.
Dywed Llywodraeth Cymru eu bod yn cydnabod y pryderon ac y byddan nhw’n ystyried yr argymhellion.
‘Eithriadol o greulon’
Un sydd wedi bod yn ceisio dod â niwed y gamp i’r amlwg ydi Delyth Jewell, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ddwyrain De Cymru.
Lleisiodd ei barn ar gynlluniau i ehangu’r unig stadiwm rasio milgwn yng Nghymru ym mis Hydref, ac mae hi wedi’i phlesio yn dilyn y newyddion heddiw.
“Mae e’n rhywbeth eithriadol o greulon,” meddai wrth golwg360.
“Fi wedi clywed gan nifer o, nid dim ond mudiadau fel Hope Rescue, ond hefyd y bobol sy’n berchen ar filgwn maen nhw wedi achub o rasio, am y pethau mae rhai o’r cŵn yn gorfod wynebu os ydyn nhw’n torri coes neu rywbeth fel yna.
“Maen nhw’n cael eu trin fel gwastraff.
“Dydi rasio milgwn ddim yn rywbeth ddylai gael digwydd yng Nghymru. Dydi o ddim yn rywbeth dylai cael digwydd mewn cymdeithas wareiddiedig.”
Mae ei sylwadau wedi’u hategu gan Vanessa Waddon, Uwch-Bennaeth Gweithredu Hope Rescue.
“Rydym ni yn Hope Rescue wedi gweld pa mor beryglus yw rasio milgwn, gyda chŵn yn cael eu hanafu neu eu lladd yn gyson,” meddai.
“Mae’r diwydiant, yn fwriadol, yn creu miloedd o gŵn dros ben unwaith maen nhw’n gorffen rasio ac yn disgwyl i elusennau lles anifeiliaid achub eu ‘gwastraff’.
“Rydym yn falch iawn fod y Pwyllgor Deisebau yn cytuno â ni fod dim lle i rasio milgwn mewn Cymru drugarog sydd yn poeni am les anifeiliaid.”
Rheoleiddio dros y blynyddoedd
Mae’r Ddeddf Lles Anifeiliaid gafodd ei basio yn 2006 yn rhoi pwerau i weinidogion Cymru wneud rheoliadau i hyrwyddo lles anifeiliaid.
Ond ydi’r Ddeddf wedi bod yn ddigonol?
“Dw i’n gwybod bod rhai pobol yn dweud ein bod ni dim ond angen gwella’r system rheoleiddio ac wedyn byddai pethau’n well,” meddai Delyth Jewell.
“Ond fi jest ddim yn meddwl y byddai rheoleiddio ar ei ben ei hunan byth yn ddigonol achos mae’u rasio nhw dal yn greulon.
“Dydi dod mewn ag unrhyw fath o reoleiddio ddim yn mynd i stopio’r ffaith fod milgwn yn dal yn mynd i farw ac yn dal i ddioddef.
“Tan yn eithaf diweddar, mae’n debyg, roedd gwefan y cwrs rasio yn Ystrad Mynach yn ymffrostio am y ffaith fod rhyw droad yn eu cwrs yn eithriadol o anodd i’r milgwn fynd o gwmpas.
“Mae hynna jest mor ffiaidd bod pobol yn edrych ymlaen i weld cŵn yn gorfod gwneud rhywbeth sy’n anodd yn gorfforol iddyn nhw.
“Fi jest ddim yn meddwl bod unrhyw beth da yn dod allan o’r holl beth.”
Diwedd ar rasio anifeiliaid eraill?
Daw hyn â’r cwestiwn o rasio anifeiliaid eraill fel ceffylau, er enghraifft.
“Dw i’n gwybod y bydd gwahaniaeth barn, ond dw i ddim o blaid rasio steeplechasing ceffylau,” meddai Delyth Jewell wedyn.
Ras geffylau pell yw steeplechasing lle mae gofyn i gystadleuwyr neidio rhwystrau ffens a ffosydd amrywiol.
“Mae’r sefyllfa gyda rasio milgwn lot gwaeth o ran be’ mae’r cŵn yn dioddef.
“Felly fyswn i’n sicr o blaid gwahardd steeplechasing, ond fi yn gweld bod gwahaniaeth barn.”