Mae Alex Horton o Drecelyn, sy’n wicedwr ifanc yn nhîm criced Morgannwg, wedi’i ddewis yng ngharfan baratoadol Llewod Ifanc Lloegr dros y gaeaf.

Bydd tîm dan 19 oed Lloegr yn herio Awstralia yn y flwyddyn newydd.

Yn rhan o hyn, mae carfan ymarfer o 22 o chwaraewyr wedi dod at ei gilydd, ac maen nhw eisoes wedi treulio pythefnos yn Abu Dhabi cyn i’r garfan gael ei chwtogi ar gyfer y daith i Awstralia, fydd yn para mis ac yn cynnwys dwy gêm brawf, tair gêm undydd 50 pelawd ac un gêm ugain pelawd.

Llofnododd Alex Horton gytundeb pum mlynedd gyda Morgannwg pan oedd e’n 16 oed, a hynny’n dilyn diddordeb yn y wicedwr o du Hampshire.

Bydd ei gytundeb presennol yn ei gadw yng Nghymru tan o leiaf 2024.

Clwb Criced Trecelyn “wrth eu boddau”

Mae Jonathan Wellington o Glwb Criced Trecelyn yn dweud bod y clwb “wrth eu boddau” yn dilyn cyhoeddi’r garfan.

“Mae e’n dipyn o gricedwr sy’n datblygu’n dda,” meddai wrth golwg360.

“Mae’n amlwg yn uchel ei barch, ac rydyn ni’n falch dros ben ohono fe.

“Does dim amheuaeth gyda ni y bydd e’n gwneud yn arbennig o dda, ac y gallai 2023 fod yn flwyddyn fawr iawn iddo fe.”

Wicedwr ifanc disglair Morgannwg yng ngharfan Llewod Ifainc Lloegr

Bydd Alex Horton o Drecelyn yn teithio ar gyfer y gyfres undydd yn erbyn Sri Lanca

Y cricedwr ifanc “all fynd yn bell”

Alun Rhys Chivers

Wicedwr 16 oed wedi denu sylw Hampshire, cyn llofnodi cytundeb pum mlynedd gyda Morgannwg