Mae Ysgrifennydd Clwb Criced Trecelyn wedi datgelu wrth Golwg fod eu wicedwr 16 oed wedi denu sylw Hampshire, cyn llofnodi cytundeb pum mlynedd gyda Morgannwg.

Eisoes mae Alex Horton wedi chwarae i ail dîm Morgannwg ac i dîm Siroedd Llai Cymru, ac wedi ennill ysgoloriaeth Safon Uwch yn ysgol fonedd St. Edward’s yn Rhydychen. Ac fe fu’n chwarae i dîm cyntaf Trecelyn drwy gydol yr adeg honno.