Byddai “iechyd cyhoeddus” yn elwa pe bai ein carthion yn cael eu hasesu’n fanylach, yn ôl academydd sydd yn cyfrannu at yr ymdrech yn erbyn Covid-19.

Ers mis Mawrth mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Bangor wedi bod yn monitro lefelau ‘SARS-CoV-2’ (yr haint sy’n achosi Covid-19) mewn dŵr gwastraff.

Mae’r ymchwil yma yn rhan o raglen gwerth miliwn o bunnau dan arweiniad yr ‘UK Centre for Ecology & Hydrology’ (UKCEH), ac mae sawl prifysgol yng ngwledydd Prydain ynghlwm â’r gwaith.